Heblaw siarad â ‘sgwennu am bêl droed, un o fy hoff ddiddordebau ydi darllen am y gamp, a’r wythnos diwethaf fe ddois ar draws llyfr newydd a afaelodd yn fy nychymyg.
Mae yna nifer o lyfrau diddorol am y gêm, ond mae’r llyfr yma yn gampwaith, yn enwedig os ydych wedi dilyn pêl droed yng ngogledd Cymru dros gymaint o amser a fi!
'The Prince of Centre Halves' ydi enw’r llyfr sef hanes bywyd Tommy Jones (T.G.) neu fel yr oedd llawer yn ei adnabod o gwmpas Pwllheli a Porthmadog, Tomi Twr.
Bachgen o Gei Conna oedd Tommy, gafodd ei eni yn 1917, ac yno, yn ysgol gynradd
St. Mark gafodd ei addysg ble sylwyd fod ganddo ddoniau arbennig yn y gêm. Chwaraeodd i dîm ysgolion Sir y Fflint, ac yna i ysgolion Cymru (a hynny ar adeg pan oedd bron y tîm cyfan yn cael ei ddewis o chwaraewyr a oedd yn byw yn ne Cymru).
Chwaraeodd hefyd i nifer o dimau lleol yn yr ardal cyn ymuno a Wrecsam yn 1934. Cymaint oedd ei allu ar y Cae Ras nes iddo dynnu sylw’r clybiau mawr, yn enwedig Aston Villa ac Everton, a gan fod Everton lawer agosach i'w gartref ar Lannau Dyfrdwy, ac yn haws teithio i Lerpwl ar y tren o Shotton, fe ymunodd Tommy a hwy yn 1936 am ffi trosglwyddiad o £1,400.
Roedd dylanwad y Cymro ar Everton yn aruthrol, a gyda Joe Mercer a Tommy Lawton hefyd yn yr un tîm, llwyddodd Everton i ennill pencampwriaeth yr hen Adran Un ar ddiwedd tymor 1938/9 gydag un o’r timau gorau a welodd y clwb erioed.
Ond daeth yn Rhyfel, a newid byd, gyda TG ar ben ei gem.
Chwaraewyd nifer o gemau rhanbarthol, gyda Tommy ar gael y rhan fwyaf o'r amser gan ei fod wedi cael ei leoli yn ystod y rhyfel yn ffatri awyrennau Brychdyn i adeiladu awyrennau fomio i'r awyrlu. Fodd bynnag, er waethaf y toriad swyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, llwyddodd T.G. i chwarae dros 300 o gemau i Everton gan ddod yn gapten ar y clwb ar ôl ail gychwyn swyddogol y gynghrair yn 1946.
Enillodd ddau gap ar bymtheg i Gymru, ac fe geir ei hanes yn sefydlu clwb pêl droed ar Lannau Dyfrdwy er mwyn rhoi cyfloedd i'r hogiau ifanc ar ddiwedd y rhyfel. Enw’r clwb a sefydlwyd oedd Connah’s Quay Juniors cyn newid ei enw i Connah;s Quay Nomadas ac eleni fe fydd y clwb yn cystadlu yng Nghwpan Ewropa am yr ail dymor yn olynol. Tipyn o gamp ers dyddiau mebyd y clwb o dan weledigaeth Tommy Jones!
Daeth tro ar fyd TG yn 1948 pan geisiodd clwb AS Roma o’r Eidal ei arwyddo, ond gwrthododd Everton y cynnig gan suro perthynas Tommy a'r clwb. Erbyn 1950 cafodd y Cymro ddigon ar y diffyg parch yr oedd yn ei gredu yr oedd yn ei dderbyn ar Barc Goodison ac fe dderbyniodd gynnig gan glwb pêl droed Pwllheli, ble y daeth yn letywr ar Westy’r Twr
(a dyna paham yr enw Tomi Twr!) a hefyd yn rheolwr / chwaraewr ar dîm pêl droed Pwllheli a’r Cylch.
Tipyn o sioc yn ei ddydd ac fe allai wneud dim mwy na’i gymharu drwy ddychmygu Aaron Ramsey yn pwdu ac yn gorfod gadael Arsenal o dan gwmwl a ffrae , ac ymuno a chlwb Porthmadog neu Chaernarfon! Ie, cymaint oedd gallu Tommy Jones fel chwaraewr! Y farn bresennol o'i allu, sydd yn cael ei gynnig yn y llyfr, gan chwaraewyr o’i genhedlaeth ydi ei fod fel yr Almaenwr Franz Beckenbauer , neu i ddod at y personol cyfoes, fel y chwaraewr ifanc John Stones (o Manchester City a gynt o Everton) trwy ei allu i basio'n gywir ynghyd a'r gallu i ddarllen y gêm a rhagweld digwyddiadau.
Ond hwyrach, fel mae’r llyfr yn ei awgrymu mai ym Mangor y daeth awr fawr Tommy.
Enillodd Bangor, o dan ei reolaeth, Gwpan Cymru yn nhymor 1961/2 ac agorodd hyn y drwy iddynt gystadlu yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop. Tynnwyd yr enwau allan o’r het a chafodd Bangor ddeall mai cewri'r Eidal, Napoli oeddynt i wynebu. Dyma dîm a oedd yn cynnwys chwaraewyr costus, fel y blaenwr Humberto Rosa a gostiodd £75,000 o Juventus, a gwelwyd gemau a ddisgrifir fel gemau Dafydd a Goliath yn cael eu cynnal. Cymaint yr achlysur a'r hanes fel bod y gemau yma yn parhau mewn cof hyd heddiw, ac yn fy nghof innau gan na allaf fyth anghofio eistedd ar y gwair, wrth yr ystlys ar Ffordd Farrar, mewn gem wyrthiol, hudol a rhyfeddol. Enillodd Bangor o ddwy gol i ddim. Doedd yr Eidalwyr erioed wedi gweld cymaint o emosiwn mewn gem, gyda chwaraewr Bangor yn ymgynnull y noson cyn y gêm, a’r Eidalwyr yn foethus ddarparu yng nghanol eu cyfoeth.
Ond, cyfoeth neu ddim, am chwarter wedi chwech ar y pumed o Fedi, 1962, fe aethpwyd ati i greu hanes ar Ffordd Farrar. Goliau i’r asgellwr Roy Matthews a Ken Birch (cic o’r smotyn) yn creu noson fyth gofiadwy gydag Amos Mariani, aelod o dîm Napoli, yn cyhoeddi nad oedd y tîm erioed wedi profi unrhyw beth yn debyg i'r gefnogaeth a gafodd Bangor y noson honno.
Colli fu hanes yr ail gymal yr Eidal, o dair gôl i un, a phetae rheolau Ewropeaidd presennol wedi bod yn weithredol yr adeg hynny, yna fe fyddai Bangor wedi camu ymlaen i'r ail rownd. Ond nid felly oedd pethau. Bu rhaid cael gem ychwanegol a hynny yn Llundain yn Stadiwm Highbury (cartref Arsenal). Dyma gyda llaw, oedd y gêm Ewropeaidd gystadleuol gyntaf i gale i gynnal rhwng dau glwb yn Highbury!
Yr Eidalwyr aeth a hi o ddwy gol i un, diolch i gol hwyr, bum munud cyn y diwedd, o flaen torf o dros ugain mil ( 21,859) .
Dyma fodd bynnag camp olaf Tommy Jones, llithrodd i ddinodedd gan dreulio ei flynyddoedd olaf yn gwerthu papurau newydd yn ei siop ym Mangor, a’r gwir ydi ei fod wedi dod i gael ei anghofio gan lawer.
Ond, diolch i'r awdur Rob Sawyer, sy'n aelod o Gymdeithas Etifeddiaeth Everton, mae stori am fywyd yr enigmatig Tommy Jones wedi dod yn fyw, a diolch i'r nifer o'r rhain a rannodd eu hatgofion gyda'r awdur, fel Ifor Roberts y cyn golwr ym Mhwllheli, ac Emyr ab Iorwerth y chwaraewr amatur rhyngwladol a ymunodd a Bangor o Borthmadog, mae'r darluniau a'r atgofion am ddyddiau hiraethus Tommy Jones ym Mhwllheli a Bangor yn parhau.
Mae gen i atgofion fri am y storiâu am Tommy Jones, yn enwedig drwy wrando ar Ifor flynyddoedd yn ôl pan oedd yn rheolwr ar Borthmadog yn y chwe degau, a finnau'n olwr ifanc yn cael ymarfer gyd fo a’r tîm ar y Traeth. Gallaf eich sicrhau fod yr atgofion llawer mor gofiadwy a doniol ac yr oeddynt yr adeg hynny.
Dyma hanes gwrthryfelwyr, arloeswr ac athrylith a welwyd ymysg ein magwraeth pêl droed yng ngogledd Cymru.
Llyfr am arwr a gafodd ei anghofio gan lawer, ond llyfr dylai pob cefnogwr Everton , Pwllheli a Bangor, ac ar draws y gogledd a Chymru gyfan ei ddarllen.
Perl.
