Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Mehefin 3ydd - 10fed 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Aled Hughes - Rafftio

carlamu - galloping

tair tunnell - three tons

digywilydd - cheeky

lli'r afon - the river's current

o ystyried - considering

yn llythrennol - literally

chwifio - waving

suddo - sinking

cythraul - devil

cropian - crawling

"...hanes Aled Hughes a'i dîm yn cymryd rhan mewn ras rafftio ar afon Menai. Roedd yna ddau ddeg chwech rafft yn y ras, ac enw rafft Aled oedd "Ar F'enaid". Roedd yna bump yn nhîm Aled: Dei Tomos, Tudur Owen, Dyl Mei a Dilwyn Morgan. Fyddan nhw'n cyrraedd pen y daith, sef Porthaethwy, yn saff? Yn y clip nesa 'ma maen nhw bron â chyrraedd Pont Borth, a bron iawn â chyrraedd y cei..."



Rhys Mwyn - Nant Gwrtheyrn

llwyddiant rhyngwladol - international success

annog - to encourage

meddygaeth - medicine

cyfeiriad disgwyliedig - the expected route

ymadael - gadael

cefnogi - to support

diogel - safe

hunan-gyflogedig - self-employed

her - a challenge

edmygu - to admire

"Wel mi wnaeth y tîm yn dda yn do? Wn i ddim faint yn bellach fasen nhw wedi mynd, cofiwch, heb i'r rafft suddo. Nos Lun, mi gafodd Rhys Mwyn sgwrs efo'r Dr Carl Clowes. Fo oedd un o'r bobl wnaeth weithio'n galed i sefydlu Nant Gwrtheyrn fel Canolfan Genedlaethol i ddysgu Cymraeg. Ond roedd Rhys eisiau holi am feibion Carl - y ddau ohonyn nhw'n aelodau o'r band enwog Super Furry Animals..."



Bore Cothi - Rhodri Elis Owen

adfer - to renovate

elfennau - elements

hirwyntog a chymleth - longwinded and comlicated

ardal gadwraeth - conservation area

unigryw - unique

ymchwil - research

gwerthfawrogiad - appreciation

cragen - shell

arddull - style

lloriau pren - wooden floors

"Hanes dau o feibion y Dr Carl Clowes yn fan'na. Mae Rhodri Elis Owen wedi bod yn adfer ty ers dros tair blynedd. Mi roedd Shan Cothi am gael gwybod sut aeth o ati i adfer y ty, beth oedd y problemau a beth oedd apêl adfer tai..."



Stiwdio - Canwr y Byd

cantorion - singers

clyweliadau - auditions

yn ychwanegol - extra

mwy o bwysau - more pressure

amrywiol wledydd - a variety of countries

doniau lleisiol - vocal talent

cyflwyniad cerddorol - musical presentation

profiad - experience

llwyfan - stage

cynyddu - to increase

"Rhodri Elis Owen oedd hwnna yn sôn wrth Shan Cothi am y ty mae o wrthi'n ei adfer. Mae cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn cael ei gyfri yn un o'r cystadlaethau rhyngwladol pwysica i gantorion ifanc. Y mezzo Sioned Gwen Davies fydd yn cynrychioli Cymru yn BBC Canwr y Byd Caerdydd 2017 a dydd Mercher mi gafodd hi sgwrs efo Nia Roberts am y gystadleuaeth... "

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cwpan IrnBru

Nesaf

Hanes T.G. Jones - Everton