Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Bore Cothi - Iona
deuawd canu gwlad - country and western duet
triniaeth - treatment
yn bendant - definitely
crïo - llefain
nerth - strength
cysylltiad â - connection with
hyd yn oed - even
profiadau - experiences
digalon - sad
teimladwy - sensitive
"...Iona Boggie yn sgwrsio efo Shan Cothi ddydd Mawrth diwetha. Mae Iona yn enwog yng Nghymru fel rhan o'r ddeuawd canu gwlad Iona ac Andy. Mae Iona a’i gwr Andy yn dod o Ogledd Cymru yn wreiddiol ond yn byw yn yr Alban erbyn hyn. Yn anffodus, yn ddiweddar mae Iona wedi cael ail driniaeth am ganser o’r fron. Gofynnodd Shan i Iona ydi cerddoriaeth yn bwysicach iddi hi nawr nag erioed.? Dyma ateb Iona... "
Aled Hughes - Pupur a Halen
deugain mlynedd - pedwar deg mlynedd
darlledu - to broadcast
dychan - satire
distaw braf - nice and quiet
yn hamddenol - leisurely
mae o'n dal i edliw - he still won't let it lie
swyddog parchus - a respectable officer
cynhyrchydd - producer
chwyddwydr - mcroscope
cyfrannu - to contribute
"Iona Boggie yn fan'na yn siarad yn onest ac yn bositif am fyw efo canser. Mae hi'n ddeugain mlynedd ers i Radio Cymru ddechrau darlledu ac un o'r rhaglenni gafodd eu darlledu yn ôl yn 1977 oedd rhaglen ddychan o'r enw 'Pupur a Halen'. Fel rhan o ddathlu'r pen-blwydd bydd 'na gyfres newydd o Pupur a Halen i'w chlywed ar Radio Cymru. Yn anffodus dim ond dwy raglen fydd yna, ond ar raglen Aled Hughes ddydd Iau, clywon ni Dyfan Roberts a Valmai Jones yn cofio'r gyfres wreiddiol... "
Rhys Mwyn - Disgo
deunydd - material
hanes diwylliant poblogaidd - the history of popular culture
swancio - showing off
bodoli - existing
tanddaearol - underground
Efrog Newydd - New York
caneuon - songs
Y Chwyldro - a Welsh band in the 70's
Tebot Piws - a Welsh band in the 70's
system sain cyntefig - primitive sound system
Cofiwch ei bod hi'n bosib i chi wrando eto ar y gyfres drwy fynd ar wefan Radio Cymru. Dw i'n siwr bod digon o ddeunydd dychan i'w gael y dyddiau hyn yn does...? Roedd 1977 yn flwyddyn ddiddorol ym myd y ffilmiau hefyd. Dyna pryd daeth y ffilm Saturday Night Fever allan a hynny 'n arwain at y diddordeb ym miwsig disgo. Ar raglen Rhys Mwyn nos Lun, buodd Rhys yn sgwrsio am fiwsig disgo efo Caryl Parry Jones ac Ian Cotterell, a dyma i chi flas ar y sgwrs...
Geraint Lloyd - Arch Noa
elusen - charity
hyd yn hyn - up to now
anhygoel - incredible
paratoi - to prepare
aroglau - smells
tywod - sand
yn swyddogol - officially
prydferth - pretty
ling di long - a leisurely pace
yn eich pwysau eich hunain - at your ownpace
"Rhys Mwyn a'i westeion yn cofio miwsig disgo yn fan'na. Nos Wener cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda Dyfrig a Ieuan Harries, tad a mab o ardal Crymych yn Sir Benfro sydd yn teithio ar feiciau modur o Cape Town, De Affrica i Aberteifi. Mae Ieuan, y mab, wedi bod yn gweithio yn Botswana felly maen nhw wedi teithio lawr o Botswana i Cape Town yn barod, ac am gychwyn y daith go iawn yr wythnos yma. Maen nhw’n codi arian i elusen Arch Noa ar hyd y ffordd."
