Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Ar Y Marc - Tomos Y Mascot
y we - the internet (web)
chwarae teg - fair play
holi - to ask
lan - fyny
cyfweliad - interview
hybu - to promote
noddwyr - sponsors
mynd ati - to go about
deutha ti - dweud wrthot ti
cic o'r smotyn - penalty kick
"... dach chi'n cofio'r stori am fasgot tîm pêl-droed Abertawe yn edrych efo'i geg yn agored ar Wayne Rooney cyn y gêm rhwng Abertawe a Manchester United? Tomos Bryn Griffiths oedd ei enw, mae o'n naw oed ac yn dod o Nantycaws yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd y llun ohono fo ei weld gan filiynau o bobl ar y we. Wel erbyn hyn mae Tomos wedi cael cyfle i sgwrsio gyda Wayne Rooney ei hun mewn fideo ar gyfer mascots timau peldroed, a buodd o’n dweud yr hanes wrth Dylan Jones ar Ar y Marc..."
Bore Cothi - Barrington Mock
gohebydd - correspondent
chwedl - myth
cyfaddawd - compromise
tystysgrif geni - birth certificate
cysylltiad - connection
stryffaglo - struggling
bwrw ymlaen - forge ahead
mynegiant - expression
brwdfrydig - enthusiastic
datrys - to resolve
"Tomos Bryn Griffiths efo dyfodol dw i'n siwr fel gohebydd pêl-droed. Bore Mawrth cafodd Shan Cothi sgwrs efo pennaeth adran y Gymraeg yn ysgol Martin Sant Caerffili. Ond nid am addysg oedd y sgwrs ond am enw personol diddorol iawn y pennaeth. Yn naturiol felly cwestiwn cyntaf Shan oedd – o ble daeth yr enw Barrington Mock..."
Rhaglen Caryl - Bwystfil Brechfa
bwystfil - beast
wyn - lambs
llo bach newydd anedig - newly born calf
diweddglo - conclusion
ymhelaethu - to enlarge
paratoi - preparing
creadur - creature
hen arf - an old weapon
clwyfo - to wound
ail-lwytho'r dryll - re-loading the firearm
"Mr. Mock oedd hwnna yn esbonio sut a pham cafodd o'r enw cyntaf Barrington. Dach chi’n cofio yr hanesion am Fwystfil Brechfa? Wel mi fuodd Caryl yn sgwrsio am bob math o fwystfilod ar ei rhaglen ddydd Iau, fel y Loch Ness Monster a’r Yeti. Roedd Alun Lenny yn ohebydd newyddion pan oedd Bwystfil Brechfa yn lladd defaid ac wyn yn nechrau’r wythdegau. Dyma fo’n dweud hanes y bwystfil yn cael ei ddal..."
Rhaglen Dylan Jones - Amy Wadge
wedi'r cwbl - after all
cyfansoddi - to compose
gwobr - award
brysiog - hurried
yn farw - dead
yn berchen i - owned by
potsian - messing about
man cychwyn - starting point
cael dweud - allowed to say
gwersyll - camp
"Felly ci mawr gwyllt oedd y bwystfil wedi’r cwbl, nid cath fawr fel Puma. Roedd hi’n noson fawr yn Los Angeles nos Fawrth yn seremoni’r Grammys, ac yn noson fawr iawn i‘r Gymraes Amy Wadge ar ôl i’r gân wnaeth hi gyfansoddi gyda Ed Sheeran ennill gwobr cân orau’r flwyddyn. A’r bore wedyn buodd gwr Amy, Alun ap Brinley sydd yn actio cymeriad Jim Probert yn Pobol y Cwm, yn dweud hanes y gân Thinking Out Loud wrth Aled Hughes..."
