Ydi’r rhod yn troi ar Gae Ras Prifysgol Glyndwr ?
Gyda’u rheolwr, Gary Mills yn dweud fod angen gwella canlyniadau, yn sgil y perfformiadau dechrau’r flwyddyn, mae ymateb Wrecsam wedi bod yn un gadarn a phositif, ac fe gadarnhawyd hyn nos Fawrth adref yn erbyn Kidderminster gyda buddugoliaeth o ddwy gol i ddim.
A tybed a oes yna arwr newydd yn prysur wneud ei farc ar y Cae Ras?
Kayden Jackson a sgoriodd ddwy gôl yn dilyn perfformiad campus yn Welling y Sadwrn cynt, yn codi Wrecsam i'r pedwerydd safle yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr.
Tybed, tybed yn wir, a’i dyma’r tro allwedd mae Wrecsam wedi bod yn chwilio amdano?
Ond, cyn cynhyrfu ormod, llanw a thrai ydi hi wedi bod eleni ac mae’r amser wedi ei sicrhau nad rhyw gyfnod llewyrchus dros dro ydi’r rhediad diweddaraf yma.
Mae’r fuddugoliaeth yn erbyn Kidderminster wedi ymestyn rhediad di guro Wrecsam i chwe gem ac fe fydd y gêm nesaf, oddi cartref yn Macclesfield ddydd Sadwrn o bosib yn dangos fod yr awch a’r brwdfrydedd i lwyddo ac i gyrraedd y gêm ail gyfle yn parhau.
Gwawr newydd ar y Cae Ras? - mae hanes yn golygu fod rhaid bod yn wyliadwrus a pheidio â mynd dros ben llestri - ond anodd peidio ar ôl y mis diwethaf!
