Noson fawr, brysur o gerddoriaeth ar gael ar-lein am y tro cyntaf gyda BBC Radio Cymru.
Rwy’n falch iawn o’r sioe Gymraeg wythnosol, Huw Stephens, sef y sioe rwy’n ei chyflwyno ar nos Lun am 7pm ar BBC Radio Cymru - gorsaf radio Gymraeg y BBC.
Yn wir, bob nos ar BBC Radio Cymru, rydyn ni’n chwarae’r goreuon o gerddoriaeth Gymraeg, ac mae yna gynifer o artistiaid gwych yn creu cerddoriaeth drwy’r amser. Unwaith y byddwch chi’n darganfod cerddoriaeth Gymraeg, fe fyddwch chi’n darganfod pum artist arall sy’n gwneud pethau gwych, ac yn y blaen. Mae’n bwll di-waelod o gerddoriaeth wych!
Mae gwobrau'r Selar, nos Sadwrn yma yn Aberystwyth, yn ffordd o ddathlu a dangos y doniau hynny mewn un noson fawr, brysur sy’n llawn cerddoriaeth, ffrindiau a’r gwobrau eu hunain wrth gwrs. Sgroliwch drwy'r gerddoriaeth sydd wedi’u henwebu ac fe glywch chi pam fod y sîn Gymraeg mor llewyrchus nawr.
Mae amrywiaeth yr artistiaid, o gerddorion unigol i fandiau a chyfansoddwyr electronig, i brosiectau sy’n anodd eu rhoi mewn categori, yn ein gwneud ni’n falch iawn. Dyna pam y byddwn ni yn Radio Cymru yn darlledu’r noson yn fyw ar-lein am y tro cyntaf eleni.
Mae'r setiau eu hunain, a'r gwobrau sy’n cael eu cyflwyno ar y noson, yn golygu bod yr holl beth yn achlysur arbennig iawn, ac rydyn ni’n falch o allu rhannu hynny â chi. Mae cannoedd o docynnau wedi’u gwerthu, a bydd y noson ei hun yn swnio ac yn edrych yn wych yn fy marn i! Fe wela’ i chi, neu fe glywa’ i chi yno!
Gwyliwch Wobrau'r Selar yn fyw ar bbc.co.uk/radiocymru ac ar s4c.cymru.
Gwrandewch eto ar uchafbwyntiau Gwobrau'r Selar ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru, dydd Mercher 24 Chwefror am 7pm.
