Main content

Be’ sy’n digwydd ar Rodney Parade tybed?

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yr adeg yma'r flwyddyn diwethaf, roedd dyfodol a chyfeiriad Casnewydd yn edrych yn fregus iawn gyda’r tîm yn edrych yn debygol iawn fel y byddant am lithro allan o Adran Dau ac i Gynghrair Cenedlaethol Lloegr.

Dyfodol, ansicr iawn ac un a fyddai yn anfon y clwb i le tebyg i Lys Cariad Ellis Wynne, sef lle hawdd iawn fynd iddo and anodd dod allan ohono! D’oes ond i chi ofyn i Wrecsam am y profiad hwnnw!

Boddi ynghanol yr holl ddŵr a oedd y cronni ar wyneb y cae oedd yn cael y bai !

Ond d’oedd rheolaeth siomedig a geiriau dryslyd eu rheolwr ar y pryd, Graham Westley fawr o help, wrth iddo gyflwyno perlau o ddoethinebau eiriol a oedd yn ymddangos bron yn annealladwy i’r rheini a fynnai wrando arno, ac, yn honedig, i’r chwaraewyr a oedd yn gorfod gwrando arno !

Cymaint oedd y dryswch nes i ysgrifennydd y clwb, Graham Bean, ymddiswyddo gan honni nad oedd yn bosibl i unrhyw un i gyd weithio gyda’r rheolwr. A hyn gyda rhywun sydd wedi ennill gradd meistr yn y celfyddydau ar sut i gyfeirio cwmni (company direction) .

Fodd bynnag, fe glywodd cyfarwyddwyr y clwb rhyw eiriau o ddoethineb yn galw arnynt o rywle wrth iddynt benderfynu eu bod cael digon o siarad gwag Westley; ond yn hytrach na gwerthu'r job lot am 'something' i rywun, fe benderfynwyd penodi Mike Flynn fel rheolwr. Yn lle'r holl ffrio ffair, y ffrost a'r ffrwgwd daeth sobrwydd, mwynder a sirioldeb ynghyd a heddwch a diolchgarwch ar Rodney Parade.

Arweiniodd hyn at un o'r diweddglo mwyaf cyffrous i unrhyw gynghrair wrth i Gasnewydd achub eu dyfodol ar yr unfed awr ar ddeg ac osgoi crafangau chwantus y gyngres a pharhad yn ffyddlon eu perthynas ac Adran Dau.

Yr wythnos yma, gyda phopeth yn ymddangos yn llawn gobaith, mwynder a sirioldeb, a’r briodas yn ffynnu yn y chweched safle yn Adran Dau, mae ffrae di codi ymysg y cyfarwyddwyr wrth iddynt wadu honiadau eu cyn gyfarwyddwr, Charlie Hopkins, sydd yn ôl pob son, wedi beirniadu agweddau o sut mae’r clwb yn cael ei redeg!

Ymddengys mai sail y ffrae ydi rôl yr is bwyllgor sef y Club Group, a’i rôl o fewn dylanwad ar agweddau gweinyddol o fewn y clwb.

Fodd bynnag, yn sgil yr honiadau a'r gwrth honiadau, dim ond amser a ddengys beth ydi craidd y broblem a sut y bydd hyn yn effeithio dyfodol y clwb.

Gyda rhyw ansicrwydd honedig yn codi ynglŷn â chyfeiriad y clwb i’r dyfodol, tybed a ydi’r clwb yn ystyried anfon am gymorth oddi wrth Graham Westley a’i radd M.A. a gwrando ar yr hyn a allai ei gynghori ?

Ia – gwranda nei di!

Dyna be’ fyddai dryswch!!!!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Podlediad Hydref 22ain - 27ain 2017