Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Melin Bupur - Trais
trais - violence
cafodd ei wahardd - he was banned
cyffuriau - drugs
cwffio - fighting
dychrynllyd - frightening
sbïo - edrych
craith - scar
tystiolaeth - evidence
llys - court
yn well na rhyw - better than sex
"hanes Gareth Humphreys o Borthmadog oedd yn arfer mynd i gêmau pêl-droed er mwyn ymladd efo ffans eraill. Yn y diwedd mi gafodd o ei wahardd rhag mynd i'r gêmau ac mi gollodd o sawl swydd oherwydd hyn. Trais oedd pwnc y rhaglen Melin Bupur amser cinio ddydd Llun a dyma i chi Gareth yn sôn am y trais buodd o'n rhan ohono..."
Stiwdio - West Side Story
cymysg iawn - very mixed
cynulleidfaoedd - audiences
ei phoblogrwydd - its popularity
adfywiad - revival
casineb - hatred
cyfarwyddwr - director
mor daer - so passionate
fe waharddodd e - he banned
yn gyfrifol am - responsible for
wedi bygwth ymddiswyddo - had threatened to resign
"Hanes trais gêmau pêl-droed yn fan'na gan Gareth o Borthmadog, ac roedd trais yn rhan o blot West Side Story hefyd - trais gan gangiau pobl ifanc Efrog Newydd wrth iddyn nhw ymladd yn erbyn ei gilydd. Mae hi'n drideg mlynedd ers i'r sioe gael ei pherfformio gynta ac ar raglen Stiwdio wythnos diwetha mi glywon 'chydig o hanes y sioe gan Gari Nicholas..."
Dewch Am Dro - Gyrfa chwist
gyrfa chwist - whist drive
menywod - merched
ambell waith - occasionally
wedi marw mas - has died out
ardal - area
bennu - gorffen
yr un man - the same place
symud lan - moving up
Wel, ar ôl trais pêl-droed a gangiau Efrog Newydd rhywbeth dipyn bach mwy cyfeillgar rwan - gyrfa chwist. Yn Abergwaun yn Sir Benfro oedd Rhys Meirion wythnos diwetha ac mi aeth o i glwb y Railway yn y dre i sgwrsio efo rhai o'r bobl oedd yn cymryd rhan yn y gyrfa chwist wythnosol yna...
Rhaglen Aled Hughes - Becky Williams
parhau - continue
brwydro - battling
yn benderfynol - determined
hunangofiant - autobiography
chydig wsnosa - a few weeks
dogfen - document
profiad - experience
nerth - strength
bywyd - life
rhannu - to share
"Acen hyfryd Sir Benfro i'w chlywed yn y clip yna, a gobeithio'n wir bydd y gyrfa chwist yn parhau am flynyddoedd eto ynde? Eleni buodd Irfon Williams farw o ganser. Roedd o wedi brwydro'n galed dros y blynyddoedd yn erbyn canser, ond mi wnaeth o frwydro hefyd dros eraill oedd yn yr un sefyllfa â fo. Cododd o cannoedd o filoedd o bunnau i elusennau canser. Cyn iddo farw roedd o’n benderfynol o orffen ei hunangofiant. Mi fydd y llyfr yn cael ei gyhoeddi mis Tachwedd ac mi fuodd Aled Hughes yn sgwrsio efo Becky, ei wraig, ynglyn â phwysigrwydd y llyfr i Irfon."
