Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Bore Cothi - Dysgu yn Honduras
ddim mor dlawd â hynny - not as poor as all that
tlodi - poverty
problemau emosyniol - emotional problems
brwsio dannedd - to brush teeth
mwy gwael - gwaeth/worse
i fod yn deg - to be fair
dychmygu - to imagine
hyd yn oed - even
bobol bach - goodness me
profiad bywyd - life experience
"dw i'n siwr bod llawer iawn ohonoch chi wedi bod mewn dosbarthiadau Cymraeg yng Nghymru, ond dan ni'n mynd i glywed rwan am ddosbarthiadau iaith sy'n cael eu cynnal mewn amgylchiadau gwahanol iawn yn Honduras yn America Ganol. Ffion Denham fuodd yn eu cynnal a dyma i chi ran o sgwrs Ffion efo Shan Cothi ddydd Llun..."
Rhaglen Aled Hughes - Cywirdeb gwleidyddol
cywirdeb gwleidyddol - political correctness
dau begwn - two extremes
dibrisio merched - cheapening women
testun hwyl - subject of fun
hiliol - racist
ymdrîn - to treat
yr hawl - the right (to)
dyfeisgar - inventive
hoyw - gay
gwthio'r ffiniau - pushing the boundaries
"Ffion Denham yn fan'na yn disgrifio'r tlodi welodd hi yn Honduras pan oedd hi'n dysgu Saesneg yno. Nesa - ydy cywirdeb gwleidyddol wedi mynd yn rhy bell, a sut mae o'n effeithio ar gomedi y dyddiau hyn? Mae’r actor a'r sgriptiwr Matt Lucas wedi dweud fasai hi ddim yn bosib ysgrifennu cyfres fel 'Little Britain' y dyddiau hyn. Mae John Cleese hefyd yn y gorffennol wedi dweud rhywbeth tebyg am Fawlty Towers. Be mae Barry Archie Jones, un o sgriptwyr y gyfres Dim Byd ar S4C, yn feddwl o hyn i gyd? Dyma oedd ganddo i'w ddweud wrth Aled Hughes ar ei raglen ddydd Mawrth."
Melin Bupur - Inge Hanson
llynges - navy
mabwysiadu - to adopt
sylweddoli - to realise
beichiog - pregnant
cartref plant - childrens' home
cymleth - complicated
llwyddo - succeeding
anodd credu - difficult to believe
"Barry Archie Jones yn fan'na yn rhoi ei farn ar gywirdeb gwleidyddol. Teulu oedd thema'r rhaglen Melin Bupur wythnos yma. Mae Inge Hanson yn Americanes gafodd blentyndod diddorol achos roedd ei thad gyda Llynges America ac felly roedd y teulu'n gorfod symud i fyw yn aml iawn. Mae'n briod â'r actor John Pierce Jones, mae hi wedi dysgu Cymraeg ac wedi mabwysiadu plentyn."
Bore Cothi - Fi a Mr Huws
addasiad - adaptation
wedi'i ofni - had feared
fel tasai - as if
wedi glanio - landed
y cyntedd - the hallway
rhuthrais - I rushed
llanast - mess
arogl - smell
anadlu - to breathe
cuddio - to hide
"Yr Americanes Inge Hanson oedd honna ar y rhaglen Melin Bupur. Addasiad o nofel Mared Lewis 'Fi a Mr Huws' oedd Llyfr Bob Wythnos ar Bore Cothi wythnos yma. Mae hi'n nofel hwyliog ac mae unrhyw ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uwch yn medru ei mwynhau. Mae Lena yn wraig ac yn fam i un plentyn. Ond mae ei mab Caio yn mynd i'r coleg, felly beth mae hi’n mynd i wneud nawr?
Mwynhewch, a chofiwch ei bod hi'n bosib clywed pum pennod y nofel ar wefan Radio Cymru. Chwilwch am raglen Bore Cothi arni hi, dach chi'n siwr o fwynhau... "
