Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 06 Awst 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dei Tomos - Dr Gwynn Mathews - Dinbych

enwogion - famous people

llenyddol - literary

gwasg - printing press

cymryd at - to take to something or someone

baich - burden

gair croes - a cross word

tynnu pobl i'w phen - (idiom) to aggravate

cofeb - memorial

ystyr - meaning

talwrn - cockpit

...yn siarad efo chi o faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych. Dach chi am ddod draw i'r Eisteddfod eleni? Mae Dinbych yn le arbennig iawn ac mae rhaglen yn llawn gweithgareddau i ddysgwyr Cymraeg ym Maes B ar gae'r eisteddfod. Mae cyfle i chi hefyd ymarfer sgwrsio Cymraeg dros baned yn y caffi yno - dw i'n gobeithio eich gweld chi yno! Mae Dinbych wedi bod yn gartref i lawer o enwogion llenyddol dros y blynyddoedd ac mi gafodd Dei Tomos sgwrs gyda Dr Gwynn Mathews ddydd Sul am y bobl arbennig hyn.

Cofio - Swyn

cynhyrchu - to produce

beirdd - poets

cantorion - singers

artistiaid - artists

dylanwad - influence

cyfansoddi - to compose

cyfeillgarwch - friendship

ffodus - lucky

"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cynhyrchu llawer o enwogion; yn feirdd, yn gantorion ac yn artistiaid. Wel, mae'r eisteddfod wedi cynhyrchu ambell 'girl band' hefyd! Nerys Ann Roberts o Ddinbych gafodd sgwrs gyda John Hardy wythnos 'ma i rannu ei hatgofion o'i band, Swyn, yn ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Clwyd nôl yn 1973. Wyddoch chi be? Mae Nerys hefyd yn diwtor Cymraeg i Oedolion. Ond, sut wnaeth aelodau'r band ddod at ei gilydd? Dyma Nerys gyda'r hanes i gyd."

Beti - Edward H

prif ganwr - main vocalist

parhau - to continue

hel atgofion - to reminisce

Cymoedd - Valleys

pwll glo - coal pit

rhesi - terraces

mawredd - grandeur

"Cleif Harpwood oedd un o westeion Beti George wythnos 'ma. Mae Cleif wedi bod yn brif ganwr gyda'r grwp Edward H. Dafis ers 1973 ac mae eu caneuon fel 'Breuddwyd Roc a Rôl', 'Ysbryd y Nos' a 'Dewch at eich Gilydd' yn parhau i fod yn boblogaidd heddiw. Bydd Edward H. Dafis yn chwarae eu gig olaf nos Wener yma. Yn y clip nesa' mae Cleif yn hel atgofion am ei fywyd cyn dechrau'r grwp ac am ei blentyndod yn y Cymoedd."

Nia - Catrin Beard

cyflwynydd - presenter

crafu - to scrape

bwrdd torri - chopping board

chwyrnu - to snore

dadleuol - controversial

Côr y Wig - Dawn chorus

gwawrio - to dawn

yn enwedig - especially

brain - crows

crawc - squawk

Ac o ganu 'roc a rôl' i ganu gwahanol iawn yr awn ni nesa'. Y cyflwynydd Catrin Beard oedd gwestai Nia bnawn Mercher i son am ei hoff a chas bethau. Sgynnoch chi gas swn? Cyllell yn crafu ar fwrdd torri neu'r dyn drws nesa'n chwyrnu, efallai? Wel, mae cas swn Catrin yn un dadleuol dros ben!

Daf a Caryl - Babis!

gwrandawyr - listeners

perfformiad - performance

tywys - to guide

"Canu'r adar bach! Pwy fysa'n meddwl y bysa rhywun yn medru casáu canu adar bach? Wel, mae'r clip nesa' 'ma o gn y mae gwrandawyr Radio Cymru wrth eu boddau efo hi - Cân y Babis. Caryl sy'n canu'r gân y mis ‘ma yn cynnwys enwau'r holl fabis bach gafodd eu geni yng Ngorffennaf. Croeso mawr i chi gyd i'r hen fyd 'ma, fabis annwyl yr ha'! Mwynhewch berfformiad Caryl."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ffeinal y Talwrn: y Gorau o'r Gweddill