Main content

Ffeinal y Talwrn: y Gorau o'r Gweddill

Ceri Wyn Jones

Meuryn y Talwrn

Tagiwyd gyda:

A dyna gyfres arall o’r Talwrn wedi dod i ben.

A hynny mewn steil yn y Babell Lên ar ddydd Sadwrn cynta’r Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych.

Aberhafren aeth â hi. Ond dim ond marc oedd rhyngddyn’ nhw â’r Cŵps ar ddiwedd gornest gystadleuol, a selogion y Babell a’r gwrandawyr gartre wedi cael modd i fyw: chwerthin braf ac ochneidiau o ias yn gymysg oll i gyd, yn ôl y disgwyl.

Y Meuryn gyda Rhys Iorwerth a'i dlws am gywydd gorau'r gyfres

Ond, i mi, beth bynnag, uchafbwynt yr ornest oedd cywydd ysgubol Rhys Iorwerth ar y testun ‘Sgwrs’, cywydd a enillodd iddo nid yn unig ddeg marc ond hefyd Dlws Coffa Dic Jones am gywydd gorau’r gyfres.

Ac roedd yn braf hefyd cael cyflwyno Tlws Coffa Cledwyn am delyneg orau’r gyfres i Dafydd John Pritchard o dîm y Cŵps am y gerdd ‘Hwyrach’ a weithiwyd ganddo ar gyfer rownd gyntaf y gyfres eleni – er mae’n deg dweud bod ei delyneg e ac un Mari George (Aberhafren) ar y testun ‘Eli’ hefyd wedi bod yn gyfraniadau gwych i’r rownd derfynol.

Caed yn ogystal eiliadau o ddatguddiad: a wyddoch chi, er enghraifft, fod gan dîm Aberhafren stelciwr, a hwnnw’n gyn-archdderwydd? A beth am ferched y Ddawns Flodau yn anffurfio’r Brodyr Celtaidd? A feddyliais i erioed chwaith, hyd nes i fi glywed penillion Llion Pryderi Roberts ac Arwel ‘The Rocket’ Jones, fod torheulo yn weithred mor amheus! Ewch i wefan Y Talwrn, da chi, i gael pip ar fywydau a meddyliau arswydus y beirdd hyn!

Ond, am y tro, beth am fwynhau rhai o’r cerddi hynny nas cafwyd eu darllen yn yr ornest? Y cwpledi hyn, er enghraifft:

Pam fod seidar mor barod

i'n hala ni dreiglo'n od?

Dafydd John Pritchard

Pa raid dweud o gopa’r das

mai dethol yw cymdeithas?

Aberhafren

A beth am y cyngor ymarferol hwn i ddarpar eisteddfodwyr gan Llion Pryderi:

Boed bobol pafiliwn, stondinau neu’r bar,

jest cofiwch lle’n union y parcioch chi’r car.

A meddyliwch bod y ddau gywydd rhagorol hyn ddim ond yn ail ddewis y tro hwn:

Sgwrs

(ar wyliau yn Gourville)

Bore Sul, a’i lwybrau sydd

yn ferw ddileferydd

hyd y rhiw, a’r blodau’n drwch

o wahoddiad llawn heddwch;

pader Ffrengig, unig ŷnt

di-ddweud o weddi ydynt.

Ond ym mreichiau erwau’r haf

yn dawel, pan wrandawaf

drwy’r heulwen, fe ddaw’r gwenyn

i ddweud eu dweud gyda hyn,

ac yn neithdar eu siarad

berw hwy mae hen barhad.

Aron Pritchard (Aberhafren)

Sgwrs

(Mae Esgobaeth Mynyw yn benderfynol o ddymchwel Eglwys Gwenfrewi a Mair yr Angylion yn Aberystwyth, a hynny'n groes i ddymuniad mwyafrif llethol o'r plwyfolion. Er holi sawl gwaith, ni chafwyd cyfle i siarad â'r Esgob ers misoedd lawer.)

Annwyl Esgob,

â'th bobol

hyd yn hyn heb glywed nôl,

d'wed y doi; a dywed, Dad,

a oes awr inni siarad?

Awr â'i lle mewn calendr llawn;

awr yw'r gofyn, awr gyfiawn.

Fe gei di glywed wedyn

y gwir sydd i'n dagrau syn

a chei weld pob Henffych Well

ein cau allan fel cyllell;

gweddwon yw'n gweddïau ni

gan fraw, heb nawdd Gwenfrewi.



Dafydd John Pritchard (Y Cŵps)

A 'drychwch ar ddyfeisgarwch Aron Pritchard eto fyth yn yr englyn canlynol. Y gofyniad oedd i’r beirdd lunio englyn yn cynnwys enw un o gymeriadau’r Mabinogi:

Hen Gapel

Drwy’r waliau brau, dim ond brân ddiflino

yw’r eco sy’n crawcian

yno mwy, a’r adar mân

o’u hadfail wedi hedfan.

Aron Pritchard

Fe fyddwch chi flogddarllenwyr llengar wedi sbotio enw’r cymeriad yn englyn Aron yn syth, wrth gwrs. Ond buodd y Meuryn yn araf iawn i weld taw Brân (hynny yw, Bendigeidfran) oedd yn cuddio ar ddiwedd y llinell gyntaf!

Dwi’n edrych ymlaen at gyfres 2014 yn barod...

I glywed ffeinal Y Talwrn a holl raglenni cyfres ddiweddaraf Y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.

Tagiwyd gyda:

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar y Marc - Côr Eisteddfod

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 06 Awst 2013