Mae Radio Cymru yn gwella ei ddarpariaeth i wrandawyr dros Gymru ar y rhwydwaith FM.
Felly ar ddydd Iau wythnos yma (15/08/2013), o ganlyniad i waith ar holl drosglwyddyddion FM Radio Cymru, mae'n bosib y bydd gofyn i chi ail-diwnio eich setiau radio er mwyn derbyn Radio Cymru.
Mae'r cod arbennig sydd ynghudd yn y signal FM, gaiff ei ddefnyddio i wahaniaethu rhwng Radio Cymru a gwahanol orsafoedd radio eraill ar y rhwydwaith FM, yn newid.
O ganlyniad i'r newid yma, os yw Radio Cymru wedi ei ddewis ganddoch chi fel un o'ch hoff orsafoedd ar eich set radio yn y ty neu yn y car ("preset" fel rheol), yna bydd gofyn i chi ail osod hwn. Mae newidiadau tebyg wedi eu gwneud yn ddiweddar hefyd i wasanaeth Radio Wales ar FM.
Os am gyngor a gwybodaeth bellach ewch i wefan Cyngor Derbyniad Radio y BBC http://www.bbc.co.uk/reception/radio/ neu gallwch gysylltu â'r Ganolfan Wybodaeth ar 03703 500 700 rhwng hanner awr wedi naw y bore a hanner awr wedi saith y nos o ddydd Llun i ddydd Gwener.
(Ni chodir mwy na chyfraddau rhifau daearyddol 01/02 ar gyfer galwadau i’r Ganolfan. Ond mae’n bosib y bydd galwadau’n cael eu monitro at ddibenion hyfforddiant.)
