‘Cofiwch Dryweryn’ meddai’ faner y tu i’r gol.
Gobaith newydd ar y Cae Ras; ail atgyfodiad i Wrecsam gyda’r cefnogwyr yn dyheu am godi dros wal y dŵr a suddodd eu lle yng nghynghrair Lloegr a’u hanfon i annwfn y Gyngres dros ddeng mlynedd yn ôl.
‘Cofiwch Dryweryn’ - meddai'r faner, a oedd rwy’n siŵr yn rhyw hanner wenu pan sgoriodd Wrecsam yn yr ail hanner
‘Cofiwch Dryweryn’ ymysg y dagrau a’r digalonni wrth i’r dyfarnwr (o Wigan ar gyrion Glannau’r Merswy) anwybyddu’r protestiadau , cyn gweld gobeithion trigolion capel y Cae Ras yn cael eu chwalu yn deilchion gan bigau celyn y gôl hwyr yn amser ychwanegol.
‘Cofiwch Dryweryn’ wedi’r elwch a gododd y fflam cyn y ‘Dolig, ond cofio’r tawelwch fu hi yng nghwm ein Cae Ras Ni ar noson fwyn o wanwyn ffug nas ddatgelodd dim mwy na siom pêl droedaidd arall, yn dilyn siom y llynedd, a’r llynedd cyn hynny, a chyn hynny eto hyd at dragwyddoldeb!
Dros ddeng mlynedd o siom, dros ddeng mlynedd o weld y llyn llawn obaith yn parhau i anfon ton ar ôl ton o rwystredigaeth i'r selogion.
Ie, ‘Cofiwch Dryweryn’ tra bod Wrecsam yn boddi yn ymyl y lan, gan wynebu dyfodol arall yn annwfn y gyngres.
Ond draw dros y Ferswy, rhyw ugain milltir i ffwrdd, mae maes man gyrchu llawer eraill o gefnogwyr pêl droed gogledd Cymru .
Ond be di’r ots gen i am Anfield?
Damwain a hap yw, yw fy mod yn ei libart yn byw.
Nid yw hon ar fap yn ddim byd mwy na chilcyn o ddaear mewn cilfach gefn ac yn dipyn o gyrchfan i gefnogwyr bondigrybwyll sy’n cadw sŵn am Salah a Mane a Virgil van Dijk.
Felly os am fynd i’ch cynefin a’ch dychymyg yn drên, beth am osod baner mewn amlwg le i dynnu sylw trigolion y lle?
A gyda Lerpwl yn wynebu cewri Catalonia yng Nghynghrair Ewrop yr wythnos nesaf, ble well i osod baner o flaen tîm arall a fydd yn boddi wrth ymyl y lan o flaen emosiwn eu trigolion.
Ie, rwy’n dechrau simsanu braidd; ac meddaf i chwi, mae rhyw ysictod fel petai’n dod drosof i
‘ Cofiwch Dryweryn’ yn Anfield ar y llwyfan Ewropeaidd i ddirdynnu fy mron.
Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.
