Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Ebrill 27ain-Mai 3ydd 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Rhaglen Aled Hughes - Almaeneg

Almaeneg - German language

ieithyddol - linguistic

o gymharu - in comparing

llafar - oral

ysgrifenedig - written

yn gyffredinol - generally

yr iaith safonol - the standard language

Ar bodlediad yr wythnos diwetha clywon ni Dani Schlick yn dweud bod sawl myth ynglyn â dysgu Cymraeg.

Ar raglen Aled Hughes buodd Dani'n sôn am ei hiaith gynta - Almaeneg.

Be ydy barn Dani bod rhai'n dweud mai Almaeneg ydy un o'r ieithoedd anodda i'w dysgu?



Galwad Cynnar - Pryfed Cop

pryfed cop - spiders

be sy ar ei ben...? - what the matter with him

gwe - web

paratoi am y gaeaf - preparing for winter

cachgi - coward

euog iawn - very guilty

yn ymddangos yn fwy - apears to be bigger

chwilio am gymar - looking for a partner

anhygoel o fawr - huge

ei waed yn berwi - his blood boiling

Dani Schlick oedd honna yn siarad am Almaeneg.

Ydy pryfed cop, neu gorynnod, yn fwy o faint y dyddiau yma? Dyna oedd cwestiwn Tudur Owen i griw Galwad Cynnar.

Ian Keith a Rhian Meara sy'n ateb ond yn rhyfedd iawn, mae'r ddau gyda ffobia am bryfed cop.



Beti a'i phobol - Llion Pughe

dychmygu - imagining

gorllewin gwyllt - wild west

antur - adventure

chwarel blwm - lead quarry

crwydro - wandering

ochr y dibyn - edge of the cliff

rhowch o fel'na - put it that way

Be dach chi'n feddwl? Ydy pryfed cop yn fwy o faint y dyddiau hyn? Neu ai ni sy'n dychmygu hynny?

Llifon Pughe oedd gwestai Beti George yr wythnos diwetha.

Buodd Llifon yn gweithio efo Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd cyn dechrau busnes gosod tai gyda cyd-weithiwr yn y Ganolfan, Gareth Marney.

Cafodd Llifon ei fagu yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion a dyma fo yn sôn am ei blentyndod yn yr ardal.



Rhaglen Geraint Lloyd - Rhian Evans

plentyndod - childhood

rhwyfo - rowing

y bwriad - the intention

ymarfer - practice

y dydd yn gwawrio - the day dawning

machlud - sunset

cwch cymorth - assisting boat

Llifon Pughe yn amlwg iawn wedi mwynhau ei blentyndod yng Ngwmystwyth.

Mae na griw o Glwb Rhwyfo Llangrannog yn bwriadu gwneud y Celtic Challenge eleni.

Ar Fai 2ail roedd Rhian Evans a chriw o'r Clwb yn dal y fferi o Benfro draw i'r Iwerddon a‘r bwriad wedyn oedd gwneud y Celtic Challenge a rhwyfo'n ôl i Aberystwyth.

Cafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Rhian nos Lun.



Bore Cothi - Meinir Heulyn

drwy gydol - throughout

y delynores - the (female) harpist

cyfeilydd - accompanist

gan gynnwys - including

Yn rhannol gyfrifol - partly responsible

ugain o fenywod - 20 women

sut yn y byd? - how on earth?

lleisiau mawr - strong voices

oes aur - golden age

parchu'r cyfnod - respect the period

A bydd camerâu'r BBC yn dilyn y criw drwy gydol y ras. Pob lwc iddyn nhw ynde?

Y delynores Meinir Heulyn oedd Cyfeilydd Cothi wythnos yma.

Cafodd hi sgwrs ddiddorol iawn efo Shan ac mi ddysgon ni yn ystod y sgwrs ei bod hi wedi cyfeilio i sêr y byd opera gan gynnwys Pavarotti a Joan Sutherland.



Rhaglen Aled Hughes - Ynys Llanddwyn

cysylltiad - connection

cyfres - series

rhoi sylw i - gives attention to

llongau - ships

golygu - to mean

porthladd - port

cul - narrow

cwch bach - small boat

llywio - to navigate

newydd fy nharo i - just struck me

Y delynores Meinir Heulyn oedd honna'n sgwrsio gyda Shan Cothi.

Dw i'n siwr eich bod i gyd wedi clywed am Ynys Llanddwyn, a'i chysylltiad gyda Santes Dwynwen.

Ar BBC 1 Cymru ar hyn o bryd mae na gyfres deledu o'r enw The 19 Hundred Island sydd yn rhoi sylw i'r bythynnod sydd ar yr ynys.

Roedd Aled Hughes eisiau dysgu mwy am hanes y bythynnod yma ac mi gafodd o sgwrs amdanyn nhw efo'r Dr David Owen o Niwbwrch.



Rhaglen Geraint Lloyd - Llanystumdwy

Prif Weinidog - Prime Minister

gweithdy - workshop

marwolaeth - death

cyflwr ei iechyd - condition of his health

canolbwynt - centrepoint

Dr David Owen yn rhoi hanes diddorol peilotiaid Ynys Llanddwyn i ni.

Pentre Llanystumdwy ger Cricieth yng Ngwynedd oedd ar y Map wythnos yma ar raglen Geraint Lloyd. Dyma Brian Evans yn sôn am gysylltiad y Prif Weinidog David Lloyd George â'r pentre.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cofiwch Dryweryn - torcalon i Wrecsam

Nesaf

Ffeinalau Cwpannau Ewrop