Main content

Ffeinalau Cwpannau Ewrop

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

A dyna ni - wedi wythnos o gyffro bythgofiadwy - Lerpwl yn erbyn Tottenham ym Madrid ac Arsenal yn erbyn Chelsea yn Baku, Azerbaijan.

A fu yna adeg erioed pan welwyd pedwar tîm o'r un wlad yn chwarae yn y ddwy ffeinal yng nghystadlaethau Ewrop?

Yn syml , na.

Felly fe fydd y ddwy ffeinal yma yn arloesol, ac yn ddigwyddiad cyntaf ym myd pêl droed Ewropeaidd.

Mae yna enghreifftiau o dri thîm o'r un wlad yn y ddwy ffeinal yn y gorffennol, sef Eintracht Frankfurt yn erbyn Borussia Monchengladbach yng Nghwpan UEFA yn 1980, a Hamburg yn erbyn Nottingham Forest yng Nghwpan Ewrop .

Yna, deng mlynedd yn ddiweddarach, Juventus yn erbyn Fiorentina (Cwpan UEFA) ac AC Milan yn erbyn Benfica (Cwpan Ewrop). Dilynwyd hyn yn 1995 gan AC Milan yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr, tra roedd, Parma yn wynebu Juventus yn ffeinal Cwpan UEFA, ac yn 1998 roedd (Juventus yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr tra roedd, Inter Milan a Lazio yng Nghwpan UEFA..

Yn olaf, trown i Sbaen, yn 2014 a 2016, Real Madrid a Atletico Madrid yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr tra roedd, Sevilla yn ffeinal Cwpan - a hyn yn y ddwy flynedd.

Ond gyda phedwar tîm o Loegr yn y ddwy ffeinal, mae cwyd newydd wedi ei dorri eleni.

Gyda llaw, os ydych yn rhyw feddwl teithio i un o’r ddwy ffeinal, yna dechreuwch arbed arian yn sydyn.

Y tro diwethaf i mi weld, roedd taith un ffordd ar awyren i Madrid yn costio dros £750 a’r daith adre dros £250.

Stori arall ydi awgrymu fod yr awyrennau yn cymryd mantais o gefnogwyr pêl droed

Cywilydd.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon