Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Mai 4ydd- 10fed 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Meistri - Bryn Williams

enwoca - most famous

andros o lwcus - exceptionally lucky

balch - proud

cwyno - complaining

pob dimau goch - every last cent

nid ar chwarae bach - it's no mean feat

colli cwsg - losing sleep

gweini - serving

cynhyrchu - producing

canolbwyntio ar y pres - concentrating on the money

Mae gan y chef Bryn Williams dri bwyty, dau yn Llundain ac un ym Mae Colwyn.

Mae Bryn yn dod o Ddinbych yn wreiddiol ond mi ddysgodd ei grefft drwy weithio gyda rhai o'r chefs enwoca'r byd fel fel Marco Pierre White a Michel Roux Jnr.

Ar y rhaglen Meistri amser cinio dydd Mawrth buodd Bryn yn sôn wrth Garry Owen am y teimlad o agor ei fwyty ei hun am y tro cynta, sef Odettes yn Primrose Hill yn Llundain.



Rhaglen Rhys Mwyn - Nest Llewelyn

ymuno - to join

doniol - funny

canlyn - courting

sefydlu - to establish

Colled - A Loss

mentro braidd - taking a bit of a risk

eitha telynegol - quite lyrical

hyfforddiant - training

Caer - Chester

offerynnau - instruments

Y chef Bryn Williams oedd hwnna yn sôn am sut wnaeth o brynu ei fwyty cynta.

Mae llawer yn nabod Nest Llewelyn fel mam Elin Fflur - y gantores bop sydd hefyd yn cyflwyno eitemau ar y rhaglen Heno ar S4C.

Ond roedd Nest yn seren bop ei hunan yn y saithdegau, hi oedd cantores y grwp Brân.

Nos Lun ar raglen Rhys Mwyn, buodd Nest yn sôn am sut wnaeth hi ymuno â'r grwp yn y lle cynta.



Galwad Cynnar - Tomato y Ddraig Goch

llysieuyn - vegetable

yn codi ei phen - raising its head

ei chyflwyno hi i'r byd - presenting it to the world

hadau - seeds

cynnig yr enw - suggesting the name

gwrthod - refusing

tafod yn fy moch - tongue in mouth

myn dia'n i - would you know?

pluen arall yn yr het - another feather in the cap

cochi - ripening

Ychydig o hanes y band Brân yn fan'na gan Nest Llewelyn.

I fod yn berffaith gywir, ffrwyth ydy tomato ynde ac nid llysieuyn?

Beth bynnag ydy o mae'n rhaid cofrestru enw math newydd o domato ac ar Galwad Cynnar wythnos diwetha clywon ni Medwyn Williams yn esbonio mai Tomato y Ddraig Goch ydy'r tomato cynta i gael enw Cymraeg.



Rhaglen Aled Hughes - dweud celwydd

cyn-arolygydd - former superintendant

dweud celwydd - lying

trosglwyddo - transfering

cymeriad - character

o fri - of some renown

galwedigaeth - occupation

herian - challenge

ymchwil - research

adolygu - review

y mwya'n byd - the more that

"Nid yn unig ei fod yn domato efo enw Cymraeg, ond tybed ai dyma'r unig domato i gael ei enwi ar ôl tîm pêl-droed?

'Cafodd Aled Hughes sgwrs fore Mercher gydag Alun Huws sydd yn gyn-arolygydd efo Heddlu Gogledd Cymru.

Dyma Alun yn sôn pa mor anodd ydy dod at y gwir pan mae na rai sy'n cael eu holi gan yr heddlu yn paratoi dweud celwydd yn fanwl iawn.



Rhaglen Geraint Lloyd. - Ffatri Bop

cyfrwys - cunning

pewaredd ganrif ar bymtheg - 19th century

llwyddiannus - successful

ail-agor - re-open

cerddoriaeth - music

dros gyfnod sylweddol - over a substantial period

ac yn y blaen - and so on

adnodd i'r gymuned - a community resource

digwyddiadau - events

gwaith celf - art work

Hanes byrglar cyfrwys iawn yn fan'na!

Roedd y Ffatri Bop yn nhre Porth yn y Rhondda yn le enwog iawn yn yr wythdegau fel stiwdio recordio.

Ond roedd hanes i'r lle fel ffatri gwenud y diodydd pop cyn hynny.

Alun Cox fuodd yn dweud yr hanes wrth Geraint Lloyd.



Bore Cothi - Gwyn Hughes Jones

llysgenhadon - ambassadors

Achub y Plant - Save the Children

ymwybodol - aware

yn gysylltiedig â - connected to

dyletswydd - duty

cyfuniad - combination

anrhydedd mawr - huge honour

cyfrannu - to contribute

gyrfaoedd - careers

cymharol brin - relatively scarse

Ac mi arhoswn ni gyda'r byd cerddorol yn yr eitem nesa 'ma.

Mae'r tenor Gwyn Hughes Jones a'i wraig, y soprano Stacey Wheeler, yn Llysgenhadon elusen Achub y Plant ers 2012.

Dyma Gwyn yn esbonio wrth Shan Cothi pam bod cael gweithio fel llysgennad yr elusen yn bwysig iawn iddo fo ac i Stacey.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ffeinalau Cwpannau Ewrop