Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Ebrill 20fed - 26ain 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Beti a'i Phobol - Colorama

rhyddhau - to release

Dere mewn - Ty'd mewn

enwoca - most famous

yr hewl (heol) - the road

offerynau - instruments

addo - to promise

wedi gwerthu mas - sold out

Mae'r band Colorama wedi rhyddhau sawl albwm yn Gymraeg ac yn Saesneg ac wedi perfformio mewn gwyliau fel Glastonbury, Gwyl Rhif 6 ac wrth gwrs yr Eisteddfod Genedlaethol.

'Dere Mewn' ydy cân Gymraeg enwoca'r band ac mi gafodd Beti George wybod gan aelod gwreiddiol Colorama, Carwyn Elis, mai yn Japan cafodd y gân ei rhyddhau gynta'.

Sut ddigwyddodd hynny felly?



Dan yr Wyneb - Nepal

gwirfoddoli - to volunteer

ar wahân - separate

misglwyf - period

blawd - flour

cyffwrdd - to touch

stordy - storehouse

hierarchaidd - hierarchic

tu hwnt i ystyriaeth - beyond consideration

ar gyfyl - anywhere near to

Hanes Colorama yn Japan yn fan'na, a dan ni'n mynd i aros yn y Dwyrain Pell gyda'r clip nesa 'ma.

Mae Ceri Philips yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac mae hi wedi bod yn gwirfoddoli yn Nepal ddwy waith.

Cafodd Dylan Iorwerth sgwrs gyda hi ar Dan yr Wyneb am yr arfer yn Nepal o anfon merched i gytiau ar wahân pan mae nhw ar eu misglwyf.

Buodd dwy ddynes farw mewn cytiau o'r fath yn ddiweddar. Pam bod hyn yn digwydd? Dyma Ceri'n esbonio...



Rhaglen Huw Stephens - Owain Llwyd

cerddoriaeth - music

cyfansoddwr - composer

di-enw - anonymous

tu ôl i'r llenni - behind the scenes

is-fyd o gyfansoddwyr cudd - underworld of secret composers

penodol - particular

cynnyrch - material (musical)

yn ddiweddar iawn - very recently

yn y cefndir - in the background

hap a damwain - by accident

Ceri Phillips oedd honna'n sgwrsio gyda Dylan Iorwerth ar Dan yr Wyneb am y misglwyf a chysylltiad hynny gyda'r system caste yn Nepal.

Huw Stephens oedd yn edrych ar ôl rhaglen Aled Hughes wythnos diwetha ac wrth gwrs roedd llawer o'r sgwrsio yn mynd i droi at gerddoriaeth.

Bore Mawrth buodd o'n sgwrsio efo'r cyfansoddwr Owain Llwyd sy'n dod o Lyn Dyfrdwy ger Corwen.

Dach chi'n siwr o fod wedi clywed cerddoriaeth Owain ar sawl ffilm a rhaglen deledu ond heb sylwi mai fo oedd y cyfansoddwr. Pam tybed?



Bore Cothi - Miss Cymru

cafodd ei choroni - she was crowned

cyhoeddwyd - was announced

cystadlu - to compete

naill ai - either

meithrin hunanhyder - to nurture self-confidence

cynrychioli - representing

ymarferol - practical

gwydr - glass

llwyfan - stage

cenfigen - jealousy

Felly y tro nesa dach chi'n clywed cerddoriaeth yn y cefndir, mewn siop neu ar y teledu, meddyliwch mai bachgen o Lyn Dyfrdwy o bosib oedd wedi ei chyfansoddi.

Cafodd Gabriella Jukes ei choroni yn Miss Wales / Cymru yn ddiweddar. Sut deimlad oedd y foment honno pan gyhoeddwyd ei henw? Dyna oedd cwestiwn Heather Gregory iddi hi ar Bore Cothi.



Geraint Lloyd - Tatws Caryl

bardd - poet

newydd gyhoeddi cyfrol - just published a volume

cyfeirio - to refer to

erthygl - article

rhyfedd - strange

wbath (rhywbeth) - something

sylweddoli - to realise

dychmygu - to imagine

prin dw i'n nabod - I scarcely know

megis dechrau - only just started

Llongyfarchiadau mawr i Gabriella a gobeithio bydd hi'n mwynhau ei blwyddyn fel Miss Cymru ynde?

Bardd y Mis, mis Ebrill ydy Caryl Bryn. Mae Caryl, yn dod o Amlwch ar Ynys Môn yn wreiddiol ac mae hi newydd gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth o'r enw 'Hwn ydy'r Llais, tybad?' Daw'r teitl o'r nofel 'Un Nos Ola Leuad' gan Caradog Pritchard.

Mae Caryl yn hoff iawn o'r nofel ac mae pedwar neu bump o'r pymtheg tatw sydd ganddi yn cyfeirio at y nofel honno.

Gofynnodd Geraint Lloyd iddi hi pam ei bod hi eisiau cymaint o datws?



Rhaglen Dei Tomos - Dani Schlick

iethyddol - linguistic

wynebu'r her - facing the challenge

mantais - advantage

strwythur - structure

rhediad y ferf - conjugation of the verb

digon teg - fair enough

swyddogol - official

rheolau - rules

cwtogi geiriau - shortening words

ar lafar - orally

Hanes tatws Caryl Bryn yn fan'na. Mae Dani Shlick yn dod o'r Almaen yn wreiddiol ond erbyn hyn mae hi'n rhugl yn y Gymraeg ac yn gweithio i Fenter Iaith Cymru.

Mae Dani'n credu bod sawl myth ynglyn a dysgu Cymraeg ac mi fuodd hi'n sôn am rai ohonyn nhw wrth Dei Tomos ac yn cymharu'r Gymraeg gyda'r Almaeneg.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Cofiwch Dryweryn - torcalon i Wrecsam