Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Ebrill 13eg-19eg 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Bardd ar daith - Ffynnon

Bardd Cendlaethol Cymru - National Poet of Wales

ffynnon - fountain

defodau - rites

uchelseinyddion - loudspeakers

ymateb - to respond

yn saethu i'r awyr - shooting skywards

cyd-fynd - to go with

rhewbwynt - freezing point

twr o feirdd - a body of poets

diffodd - to switch off

Ifor ap Glyn ydy Bardd Cenedlaethol Cymru ac mi fuodd o ar ymweliad â Lithwania yn ddiweddar i gymryd rhan yng ngwyl farddoniaeth Poetinis Druskininku Ruduo. Ond nid y beirdd yn unig oedd yn canu yn yr wyl, roedd yna ffynnon yn canu hefyd! Dyma Ifor yn ei disgrifio.



Rhaglen Jennifer Vaughan Jones - Disney

ffilm ddiweddara - most recent film

yn cynnwys - includes

cyfarwydd iawn - very familiar

cyflwyno - presenting

yr wythdegau - the eighties

dianc - to escape

rhyddhau - to release

dy ran di - your part

Rargian! - Goodness!

wedi eu hanimeiddio - animated

Ifor ap Glyn oedd hwnna yn sôn am y ffynnon sy'n canu.

Ffilm ddiweddara Disney ydy 'The One and only Ivan'. Gorila ydy Ivan ac mae'r cast yn cynnwys nifer o enwau cyfarwydd iawn fel Angelina Jolie, Danny De Vito Helen Mirren a Bryan Cranston. Ac yn eu canol nhw mae'r actor o Riwlas ger Bangor, Owain Arthur. Jennifer Jones oedd yn cyflwyno yn lle Aled Hughes wythnos diwetha, ac mi gafodd hi sgwrs efo Owain am y ffilm ar y rhaglen fore Llun.



Bore Cothi - Susan Jones

Uchel Siryf Gwynedd - The High Sheriff of Gwynedd

Y Sioe Fawr - The Royal Welsh

yn gynharach - earlier

yn benderfynol - determined

rhannu profiadau - sharing experiences

y byd amaeth - the agricultural world

y farnwriaeth - the judiciary

ynadon hedd(wch) - justices of the peace

hyrwyddo - to promote

gwaith gwirfoddol - voluntary work

Owain Arthur oedd hwnna, un arall o actorion Cymru sy'n gwneud ei farc yn Hollywood. Da ynde?

Eleni Susan Jones o Ynys Môn fydd Uchel Siryf Gwynedd. Beth mae hi'n edrych ymlaen ato fwya, tybed? Dyma hi'n ateb y cwestiwn hwnnw mewn sgwrs gyda Shan Cothi.



Bore Cothi - Elin Fflur

prawf ceg y groth - cervical screening

hogan - merch

cywilydd - shame

union fel fi - exactly like me

beirniadu - to criticise

hanfodol pwysig - essential

cyfadde(f) - to admit

pwysau cymdeithasol - social pressure

ar ddiwedd y dydd - at the end of the day

di o'm ots - it doesn't matter

A phob lwc i Susan Jones ar ei blwyddyn fawr fel Uchel Siryf Gwynedd.

A dan ni'n aros efo Bore Cothi rwan am sgwrs hollol wahanol. Mae Elin Fflur yn meddwl ei bod yn bwysig iawn perswadio merched ifanc i gael prawf ceg y groth. Dyma hi'n egluro pam wrth Shan Cothi.



Bore Cothi - Condor

dringo lan - climbing up

egni - energy

llygadu - eyeing

yn go glou - very quickly

hollol llonydd - totally still

prydferth - pretty

ystyried - to consider

adenydd - wings

troedfedd - foot( measurement)

enfawr - huge

Elin Fflur yn dweud pa mor bwysig ydy hi i ferched ifanc gael prawf ceg y groth.

Dan ni wedi cael dwy stori wahanol iawn ar Bore Cothi hyd yma a dyma i chi un arall sy'n hollol wahanol. Ym mis Ionawr buodd Ioan Isaac Richards o Benrhyncoch yn Ngheredigion yn dringo mynydd yn yr Andes pan ddigwyddodd rhywbeth swreal iawn. Dyma fo'n dweud yr hanes.



Benbaladr - Tokyo

Y Dwyrain Pell - The Far East

cyfres - series

Efrog Newydd - New York

traddodiadau - traditions

Cwpan Rygbi'r Byd - Rugby World Cup

llwyddiant diweddar - recent success

cyffro - excitement

croesawu - to welcome

mwy o sylw - more attention

cefnogi - to support

A dan ni'n symud o Dde America rwan i'r Dwyrain Pell.

Yn y gyfres Benbaladr mae Alun Thomas yn casglu straeon am beth sy'n digwydd ar draws y byd gan y Cymry sy'n byw yno.

Yn rhaglen gynta'r gyfres newydd un o'r rhai fuodd yn sgwrsio efo fo oedd Filipe Pusnik sy'n byw yn Japan.

Cafodd Filipe ei fagu yn Mynytho ym Mhen Llyn ac ers 2013 mae'n byw a gweithio yn Tokyo i gwmni enfawr Ewropeaidd. Gofynnodd Alun i Filipe ydy o'n blino ar oleadau neon Tokyo.

Mwy o negeseuon

Blaenorol