Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Bore Cothi - Eisteddfod Llangollen
cyflwyno o'r llwyfan - presenting from the stage
rhoi'r gorau iddi - to give it up
achlysur pwysig - an important occasion
anferthol - huge
yn orlawn - full to capacity
cynulleidfa - audience
llefaru - recitation
awyrgylch - atmosphere
beirniadu - adjudicating
unigryw - unique
...Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Dyma i chi Eisteddfod gafodd ei chreu ar ôl yr Ail Ryfel Byd er mwyn dod â phobl o bob ran o'r bydat ei gilydd i ganu a dawnsio. Roedd Bore Cothi yn dod yn fyw o faes yr Eisteddfod ddydd Iau ac mi gafodd Shan air efo Sian arall, Sian Thomas sydd wedi bod yn cyflwyno o lwyfan yr Eisteddfod ers tair blynedd ar ddeg. Sut brofiad ydy hynny tybed, ac ydy o'n wahanol i gyflwyno o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol neu Eisteddfod yr Urdd? Dyma oedd gan Sian i'w ddweud...
Dylan Jones - Tanzania
llwyth - tribe
traddodiad - tradition
dewr - brave
gwaed - blood
waeth i mi - I might as well
afiach - horrible
camddeall - to misunderstand
amddifad - orphaned
prin - scarce
gwerth chweil - worthwhile
Y ddwy Sian, Shan Cothi a Sian Thomas yn fan'na yn sgwrsio am Eisteddfod Lllangollen. Mi wnawn ni aros efo'r thema ryngwladol rwan a mynd â chi i Tanzania. Wel ddim go iawn, ond mi gewch chi glywed ychydig am y lle gan Ella Jane Lewis sydd yn chwedeg dosbarth Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Mi fuodd hi yn Tanzania am bythefnos o brofiad gwaith. Dyma i chi flas ar y sgwrs gafodd Dylan Jones efo hi ddydd Iau pan oedd Ella yn sôn am ei phrofiad hi o ymwleld â llwyth y Masai...
Caryl Parry Jones - OCD
dioddef - suffering
cyflwr - condition
cyllyll - knives
meddyliau - thoughts
chwydu - vomiting
brifo - anafu
cywilydd - shame
lladd fy hun - to kill myself
Y cam cynta - the first step
Ella Jane Lewis o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon oedd honna, yn sôn am ei phrofiadau yn Tanzania. Mi fuodd Caryl Parry Jones yn trafod mater difrifol iawn wythnos diwetha- y cyflwr OCD. Dyma i chi glip o sgwrs gafodd Caryl efo Lowri Hadden, sydd yn diodde o'r cyflwr...
Stiwdio - Agatha Christie
llofrudd - murderer
gelynion - enemies
drwgweithredwr - evil-doer
dro ar ôl tro - time after time
beichus - cumbersome
dawn cymeriadu - characterisation skills
clymu - to tie
twt - tidy
diweddglo - ending
cofnod - a record
Lowri Hadden yn fan'na yn siarad yn agored ac yn onest iawn am y cyflwr OCD. Wyddoch chi ei bod hi'n gant dau ddeg pump o flynyddoedd ers i Agatha Christie gael ei geni? Anodd credu yntydy gan fod cymaint o bobl dal yn darllen ei llyfrau ac yn mwynhau y dramâu o'i llyfrau ar y teledu. Ond ydy gwaith yr awdures yn berthnasol heddiw? Dyma ofynnodd Nia Roberts i Beryl Huws, Bethan Gwanas a Rhiallt Elidir. A gyda llaw, tasech chi'n pendroni be ydy'r miwsig sydd i'w glywed ar ddiwedd y clip - rhan o thema rhaglen deledu Poirot ydy o ...
