Daeth llyfr newydd wedi ei gyhoeddi gan fudiad y ‘Bible Reading Fellowship’ i'm sylw'r wythnos yma.
Mae’r llyfr yma wedi ei ysgrifennu gan Mark Chester, Cymro a fu ar un adeg yn aelod o dîm pêl droed ieuenctid Carmel yn Nhreffynnon, cyn ymuno â thîm ieuenctid y Rhyl a nifer o dimau lleol eraill ar hyd a lled Glannau Dyfrdwy .
Mae ei lyfr, ‘The Soul of Football’ yn cyfeirio at y cysylltiad mae o fel awdur yn ei weld rhwng pêl droed, a gwerthoedd teuluol ynghyd a’i ffydd Gristnogol.
Yn ogystal â bod yn awdur, mae Mark Chester wedi sefydlu ac yn gweithio heddiw i fudiad 'Who Let the Dads Out?' sef mudiad Cristnogol sydd wedi ei sefydlu o fewn gwahanol eglwysi a chapel ganddo er mwyn annog tadau a’u plant i dreulio amser gyda’i gilydd mewn gweithgareddau sy’n cyfoethogi a hybu gwerthoedd teuluol ac egwyddorion Cristnogol.
Cyn hyn, roedd Mark yn gweithio fel swyddog teulu o glwb pêl droed Lerpwl, gan arwain ar fenter Tactics 4 Families', sydd wedi ei anelu yn benodol tuag at ddefnyddio iaith ac egwyddorion pêl droed fel sylfaen i hybu perthynas agos ymysg teuluoedd.
Yn Lerpwl, cefnogwyd y fenter yma yn effeithiol gan aelodau blaenllaw o'r clwb fel Jamie Carragher ac roedd cynnwys y rhaglenni cefnogol yn cyfeirio at agweddau megis cyd weithio fel tîm, canu eich cefnogaeth a dilyn egwyddorion anthem y Kop, sef ‘ You’ll Never Walk Alone’.
Mae llyfr Mark wedi cael ei gymeradwyo gan Peter Lupson sef awdur y llyfr ‘Thank God for Football, a hefyd gan gaplan Manchester United, y Parchedig John K. Boyers fel llyfr sydd yn cynnig cyfle i fyfyrio ar sut y gall egwyddorion y gêm cael eu hefelychu o fewn gweithgareddau a chysylltiadau teuluol o fewn y byd cyfoes, sut y gellir cyfrannu fel aelod o dîm drwy ymateb i’r gwahanol heriau mae bywyd yn ei daflu atom.
Mae Mark wedi cyflwyno ei lyfr er cof am ei gyfaill John McBrien a gollodd ei fywyd yn nhrychineb Hillsborough yn 1989. Ceir pennod yn cyfeirio at y cyfeillgarwch rhwng Mark a John, a sut y gwnaeth y trychineb yma effeithio ar ei fywyd.
Dywed David Oakley, prif weithredwr y mudiad Cristnogol, Ambassadors Football, yn ei arweiniad i'r llyfr, fod yr awdur yn flaenllaw mewn gweithgareddau teuluol sydd wedi eu sefydlu ar egwyddorion a gweithgareddau pêl droed ac wedi llwyddo i gryfhau'r cysylltiadau teuluol rhwng tadau a’u plant dros y blynyddoedd.
Ceir hefyd gyfeiriad at ddyfyniad gan yr athronwyr dirfodol ac un o awduron mwyaf yr iaith Ffrengig sef Albert Camus pan ddywedodd ei fod yn ddyledus i bêl droed am bron popeth mae wedi ei ddysgu am gymwynas a moesoldeb dynol. Dyfyniad y gallaf eich sicrhau sydd i mi yn hollol gywir ac un y cytunaf ac ef gant y cant.
Ymysg y nifer o lyfrau a geir am bêl droed, mae’r llyfr newydd yma yn cynnig agwedd amgen a gwahanol ar ddylanwad ac effaith pêl droed ar ein bywydau ac yn cynnig ei hun fel llyfr sydd yn werth ei ddarllen a myfyrio dros ei neges dros wythnosau’r haf.
