Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Er Cof a Chadw - Dewis Ffion Dafis
angladd - funeral
Gwyl Caeredin - Edinburgh
ymlwybro - to stroll
Gwyddeles wyllt - wild Irishwoman
arallfydol - otherwordly
fy llorio - floored me
mi gries i - I cried
cynrychioli - to represent
profiad mwya dirdynnol - most moving experience
arwres - heroine
...clip o gyfres newydd ar Radio Cymru, Er Gof a Chadw. Y syniad y tu ôl i'r gyfres ydy bod pobl enwog yn dweud pa ganeuon yr hoffen nhw i bobl eu canu yn eu hangladd! Yr actores Ffion Dafis oedd yn dewis yr wythnos diwetha, ac mi gawn ei chlywed yn sôn am un gân arbennig oedd yn ei hatgoffa o'i mam. Dyma Ffion yn dweud sut clywodd hi'r gân am y tro cynta a pham ei bod hi mor hoff ohoni hi. Mi gawn ni glywed ychydig o'r gân ar ddiwedd y clip...
Post Prynhawn - Cwpan Web Ellis
Cwpan Rygbi'r Byd - Rugby World Cup
annheg - unfair
tlws - trophy
man geni - birthplace
Llywydd - President
hen draddodiad - old tradition
lan yr hewl(heol) - i fyny'r ffordd
darlith - a lecture
cofeb - memorial
Look Mummy No Hands' oedd honna gan Camilla O'Sullivan, un o'r caneuon hoffai Ffion Dafis gael ei chwarae yn ei hangladd. Wel mi waeth Cymru yn dda iawn yng Ngwpan Rygbi'r Byd bedair blynedd yn ôl, yndo? Colli yn y semis a hynny mewn ffordd annheg, yn ôl rhai. Tybed fyddwn ni'n gwneud hyd yn oed yn well eleni, a chyrraedd y ffeinal yn Twickenham? Cwpan Webb Ellis ydy enw'r tlws bydd yr enillwyr yn ei dderbyn ac mae trefnwyr y twrnament yn mynd â fo o gwmpas Cymru ar hyn o bryd. Dydd Llun roedd y tlws yn Llanbedr Pont Steffan, neu Lambed, ac mi gafodd Aled Scourfield sgwrs efo rhai o'r bobl leol am y digwyddiad...
Bore Cothi - Olive Rowlands
organyddes - organist (female)
cymanfaoedd - hymn singing festial
drwy'ch oes - throughout your life
tystysgrif - certificate
urddo - to inaugurate
claddu - to bury
y gyfrinach - the secret
cyfeilydd - accompanist
y diweddar - the late
Aled Scourfield yn fan'na yn sgwrsio efo Selwyn Walters, Randolph Thomas a Dennis Gethin ar Post Prynhawn, am ymweliad Cwpan Webb Ellis â Llanbedr Pont Steffan. Gobeithio bod Dennis Gethin yn iawn ynde, ac y byddwn ni i gyd yn dathlu ddiwedd mis Medi! A sôn am ddathlu, roedd Olive Rowlands o Rydaman yn dathlu ei phenblwydd yn gant oed yr wythnos diwetha. Mi gafodd Shan Cothi siawns i gael sgwrs efo hi ddydd Mawrth ac mi wnaethon ni ddysgu pa mor bwysig mae cerddoriaeth wedi bod yn ei bywyd hi...
C2: Ifan Evans - Trip i'r Alban
anhygoel - incredible
gwartheg - cattle
maes - field
cynnyrch - produce
prin - rare
tarw - bull
brodorol - indiginous
llwyddiant - success
cynhyrchu rhaglen - to produce a programme
Shan Cothi yn fan'na yn siarad efo Olive Rowlands sydd newydd ddathlu ei phenblwydd yn gant oed, ond oedd yn swnio fel rhywun hanner ei hoed! I orffen yr wythnos hon hanes taith arbennig iawn i'r Alban gan aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Castell Nedd. Mynd i'r Highland Games wnaethon nhw ac fel cawn ni glywed rwan, mae'n amlwg eu bod wedi cael amser anhygoel. Dyma Ifan Evans ar C2 yn cael sgwrs efo Lowri Fflur Davies o'r clwb...
