Nos Sul diwethaf llwyddodd yr Unol Daleithiau i ennill Cwpan y Byd i Ferched am y trydydd gwaith wrth iddynt guro Japan o bum gol i ddwy. Tipyn o gêm a thipyn o ddiweddglo i gystadleuaeth a ddenodd sylw nifer fawr o wylwyr a dilynwyr pêl droed ar draws y byd.
Mae yna siarad eto am adael gwaddol i'r gêm yn dilyn y cynnwrf a gododd ymysg y gemau yma, ond cafwyd yr un neges, neu obaith yn sgil y gemau Olympaidd dwy flynedd yn ôl. Breuddwyd ffôl oedd y gobaith yma am ryw etifeddiaeth yn gwthio diddordeb a chyfranogiad ehangach i'r dyfodol.
Tybed felly a ydym wedi dod yn genhedlaeth o wylwyr achlysuron yn hytrach na chefnogwyr timau?
Faint o bobol yma yng Nghymru aiff i achlysuron y gemau rygbi rhyngwladol heb bron fynychu unrhyw gêm a chwaraeir gan eu clybiau neu ranbarthol lleol? Faint o bobol sydd wedi gwylio’r tenis yn Wimbledon dros y pythefnos diwethaf ond heb wybod ble mae’r clwb tenis agosaf at eu cartrefi ?
Yn sgil llwyddiant tîm pêl droed merched Lloegr yng Nghwpan y Byd, a ddenodd miliynau i'w gweld a'u dilyn ar y teledu, faint o’r gwylwyr fydd yn tyrru i weld timau uwch gynghrair Lloegr y penwythnos yma ac am weddill y tymor ,(neu uwch gynghrair Cymru'r tymor nesaf).
Ond, nid y cefnogwyr , neu ddilynwyr yr achlysuron ydi'r unig bechaduriaid.
Draw ym Manceinion mae yna un o dimau mwyaf y byd yn chwarae. Ond d’oes gan Manchester United ddim tîm o ferched yn uwch gynghrair Lloegr, nac yn unrhyw gynghrair arall i ferched chwaith.
Oes mae gan y clwb dimau i ferched hyd at ddwy ar bymtheg oed, ac mae tîm yr oedran hynaf yma ond wedi colli tair gem yn y tri thymor diwethaf? Ond, diolch am eich cyfraniad i ddelwedd y clwb, ond ffwrdd a chi i chwilio am rywle arall chwarae ydi'r diolch iddynt cynted ag y maent yn ddeunaw oed.
Mae Manchester United yn credu mai nhw sydd gan y mwyaf o gefnogwyr benywaidd o holl glybiau pêl droed, ac ar un adeg , bu’r clwb yn cynnal tîm merched Corinthians o Frasil nes cyrhaeddiad y perchnogion presennol yn 2005 pan benderfynwyd nad oedd cynnal tîm o ferched mewn gwlad bell yn fenter a fyddai yn gefnogol i'w cynllun busnes.
Gellir dadlau fod agwedd Manchester United erbyn heddiw yn afresymol o fewn y byd masnach, bod eu hagwedd yn perthyn i oes a fu, yn ogystal â bod yn sarhad ar yr holl gefnogaeth maent yn honni eu bod yn eu cael gan ferched.
Agwedd ddoe, ac un a ddylai newid ac agwedd sydd yn hollol groes i'r hyn a gafwyd ei hybu gan y merched medrus a welsom yn cystadlu gydag awch a brwdfrydedd yng Nghwpan y Byd dros y mis diwethaf.
Ond nid Manchester United ydi'r pechaduriaid sy'n methu a pharchu a chefnogi galluoedd cynyddol y merched . Mae clwb Southampton, o dan berchnogaeth dynes , hefyd heb dîm, a hynny oherwydd rhesymau economaidd.
Draw yn Newcastle, mae tîm y merched, sy’n cystadlu yn nhrydedd adran y Cynghrair Cenedlaethol, yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr, sydd angen codi £30,000 i gynnal y tîm drwy'r tymor, tra bod aelodau'r tîm yn gorfod talu £250 i chwarae.
Er waethaf y sylw a'r diddordeb yn achlysur Cwpan y Byd, y tebygrwydd ydi na fydd yna unrhyw waddol yn cael ei etifeddu ar gyfer y dyfodol.
Tra bod rhagoriaeth yn parhau yn gyson, cyfyngedig ydi natur gwerthfawrogiad y cyhoedd, ac felly mae wedi bod bron erioed .
Mae'r cyfryngau yn brysur ein hargyhoeddi fod bron pob achlysur sy'n cael ei ddarlledu'r dyddiau yn ymylu at fod y peth pwysicaf a fyddai'n digwydd yn y byd chwaraeon, hyd nes y daw'n amser i gyhoeddi'r darllediad nesaf !
Tybed a ydi hyn wedi creu cenhedlaeth o ddilynwyr achlysurol sy'n dilyn y gêm wrth orwedd ar y soffa yn hytrach na chefnogwyr ffyddlon sy’n dilyn eu timau lleol yn gyson, beth bynnag fo’r achlysur?
Ond cyn meddwl mai rhywbeth Prydeinig heb sôn am Gymreig ydi'r agwedd yma o fod yn fwy o wylwyr na chefnogwr, allwn wneud dim m wy na throi at dim sydd hwyrach yn fwy byth na Manchester United, sef Real Madrid.
Na, does dim tîm o ferched yno chwaith, a hynny mewn clwb gyda chymaint o broffil fel bo'r potensial i wneud ffortiwn arall yn enfawr petaent yn agor eu llygaid at gydraddoldeb.
Felly be ydi'r ateb? Rhywbeth na allwn byth ei wneud mae'n debyg, sef boicotio nwyddau a nwyddau’r clybiau yma hyd nes y gallant wireddu’r ethos o barchu pawb pwy bynnag y bo, beth bynnag eu cefndir a beth bynnag eu cefnogaeth.
Tybed a fydd Manchester United neu Real Madrid yn agor y drws i groesawu’r cydraddoldeb newydd gan ddangos y parch disgwyliedig i’r amrywiaeth sy’n bodoli o fewn y gêm y dyddiau yma?
