Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 30 Mehefin 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Cofio - Alwyn Humphreys - Cythraul Canu

cyfarwyddwr - director

arweinydd - conductor

cyfansoddwr - composer

cantorion - singers

cydasio - to blend (voices) together

gwrthdaro - confrontation

teyrn - tyrant

ufuddhau - to obey

am hydoedd - for a great length

brathu - to bite

...a 'sgwn i faint ohonoch chi sy'n mwynhau opera? Wel, os dydych chi ddim yn hoff iawn o opera, efallai y bydd y clip nesa' yn newid eich meddwl chi. Alun Humphreys oedd ar y rhaglen 'Cofio' ddydd Mercher, a gyda phrofiad fel cyfarwyddwr cerdd, arweinydd a chyfansoddwr, mae Alun yn gyfarwydd iawn â drama'r byd cerddorol. Drama a chystadleuaeth rhwng cantorion opera oedd testun sgwrs Alun. Dyma fo i adrodd ychydig o'r sgandals enwog.

Geraint Lloyd - Sam Roberts - Paragleidio

gwestai - guest

paragleidio - paragliding

y fyddin - the army

braw - fright

mentro - to dare

antur - adventure

cymylau - clouds

cipio - to snatch

copâu - peaks, summits

Alun Humphreys yn fan 'na gyda sgandals o'r byd opera. Roedden nhw'n swnio fel straeon ar raglen Jeremy Kyle, yn doedden? Be' dach chi'n hoffi'i wneud yn eich amser sbâr? Darllen, cerdded, nofio? Be' am baragleidio? Sam Roberts oedd gwestai Geraint Lloyd fore Gwener. Ei ddiddordeb mawr mewn paragleidio oedd testun y sgwrs. Ond sut mae rhywun yn dechrau paragleidio? Dyma Sam gyda'i hanes.

Bore Cothi - Rob Nicholls - Karl Jenkins

unigryw - unique

hawddgar - lovable

diymhongar - unpretentious

hysbyseb - advert

marchnata - marketing

crwt - boy

perlau - pearls

gweledol - visual

gafaelgar - catchy

cyntefig - primitive

Sam Roberts yn fan 'na yn siarad am baragleidio ac yn gwneud i mi fod eisiau rhoi cynnig arni! Rob Nicholls oedd gwestai Shan Cothi fore Mawrth a cherddoriaeth y cyfnasoddwr Karl Jenkins oedd testun eu sgwrs. Dyma Shan a Rob yn trafod swn unigryw Karl Jenkins.

Dewi Llwyd - Iwan Roberts

gyrfa - career

sylwebydd - commentator

hiraeth - longing

darlledu - to broadcast

sylwebu - to commentate

boddhad - satisfaction

cysylltiad - connection

breintiedig - privileged

amdiffynnol - defensive

cais - application, request

Mae'n anodd credu bod yr hysbyseb banc enwog roedd Shan a Rob yn siarad amdani dros ugain oed! Ac i fyd chwaraeon awn ni nesa'. Ar ôl gyrfa lwyddiannus yn chwarae pêl-droed i dimau mawr yn cynnwys Leicester City a Norwich City, heb anghofio tim pêl-droed Cymru wrth gwrs, mae Iwan Roberts bellach yn sylwebydd prysur efo Sky Sports, Radio Cymru a BBC Wales. Ddydd Sul cafodd Dewi Llwyd sgwrs gyda Iwan am ei waith fel sylwebydd ac am ei hiraeth am chwarae pêl-droed.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cwpan UEFA i ferched

Nesaf

Gwaddol Cwpan pel-droed Merched y Byd