Mae Jim Parry, neu 'Jim Bach' i'w ffrindiau, yn gymeriad a hanner. Mae'n ddyn sy'n byw a bod allan ar Gors Ddyga yn Ynys Môn a does dim un hwyaden na dim un ysgyfarnog yn troedio'r warchodfa heb i Jim wybod amdano.
Yn gyn-botsiwr, mae wedi dysgu ei grefft trwy dreulio oriau di-rif allan yn yr awyr agored a gallwn ni ddim gofyn am arweinydd gwell i'n tywys o amgylch gwlypter Malltraeth a'r bywyd gwyllt sy'n ffynnu yno.
Mae'r gors yn enwog am yr adar prin sy'n nythu a gaeafu yno ac er na welson ni aderyn y bwn (bittern) na bod y gwerni (marsh harrier) adeg fy nhaith, roedd digonedd o fywyd gwyllt o gwmpas i'n difyrru.

Iolo Williams
Diddorol hefyd oedd clywed hanes dyddiau cynnar Jim yn crwydro'r ardal gyda gwn neu wialen bysgota o dan ei gesail. Mae angerdd Jim am yr ardal a'r adar i'w glywed yn ei lais a dwi'n sicr ei fod am ei gladdu ar y gors pan ddaw'r diwrnod!
Ers talwm, roedd Cors Fochno yn ddarn o aber yr Afon Cefni gyda llongau'n cyrraedd bron at ganol Llangefni ond unwaith codwyd cob Malltraeth, sychwyd llawer o'r tir ar gyfer amaethyddiaeth. Diolch i'r drefn, mae peth o'r tir erbyn heddiw wedi ei neilltuo ar gyfer bywyd gwyllt a'r RSPB sy'n gyfrifol am y gwaith o reoli Cors Ddyga.
Ers dros 20 mlynedd, mae'r gymdeithas wedi ceisio denu adar y bwn i'r warchodfa ac er nad ydynt yn nythu yno eto, mae ambell un yn galw heibio yn y gaeaf. Mae cornchwiglod a'r dylluan wen yn nythu ar Gors Ddyga ac mae hefyd yn gadarnle i lygoden bengron y dŵr a'r dwrgi.
