Tra mae sylw y rhan fwyaf o gefnogwyr pêl droed ar chwaraewyr, rheolwyr a thimau, ychydig iawn o sylw a roddir i gyfraniad y dyfarnwyr, os nad yw’n creu rhywbeth dadleuol sydd yn cael y bai am ganlyniad y gêm!.
Ond, fel y timau hynny sydd yn brwydro am yr hawl i gystadlu yn Ewrop, mae’r dyfarnwyr hefyd lawn mor ddeheuig, ac mor broffesiynol eu hagwedd.
Un o brif ddyfarnwyr Cymru ar hyn o bryd ydi Lee Evans o Fethesda, Mae eisoes wedi dyfarnu mewn gem ryngwladol ar gyfer Ewro 2016 rhwng Ynysoedd y Faro a’r Ffindir, a hefyd gem yng Nghwpan Ewropa rhwng Apollon Limassol ( Ciprys) a FC Zurich (Y Swistir).
Tra mae Lee Evans wedi camu ‘mlaen, mae dyfarnwyr eraill addawol yn prysur gasglu profiad gwerthfawr yn Uwch gynghrair Cymru. Dechreuodd Iwan Arwel Griffith ddyfarnu pan yn dair ar ddeg oed, a thrwy gymorth cynllun hyfforddi Cymdeithas Bel Droed Cymru, ynghyd a chymdeithasau pêl droed lleol, mae wedi dringo yn sydyn i fyny’r ysgol y dyfarnwyr.
Ond faint o ymroddiad sydd ei angen i lwyddo fel dyfarnwr?
Cefais sgwrs gydag Iwan, sydd hefyd yn banelydd ar raglen Ar y Marc, a dwedodd ei bod hi’n angenrheidiol i gadw safon uchel o ffitrwydd. Ar ddechrau'r tymor roedd rhaid I holl swyddogion Uwch Gynghrair Cymru fynychu seminar blynyddol ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd, yno, cafwyd sgyrsiau gan gyn ddyfarnwyr profiadol FIFA, a hefyd prawf ffitrwydd gan anelu at lefel penodol.
Fel llawer o ddyfarnwyr eraill, does dim gorffwys drwy'r haf i Iwan, cedwir at y drefn a’r arferiad o ymarfer yn gyson, gan sicrhau mesur a monitro curiad y galon. Cedwir y data a gesglir cyn ei lawr lwytho i arbenigwyr gwyddoniaeth chwaraeon sydd yn dehongli'r wybodaeth a chreu cynllun ffitrwydd penodol i'w ddilyn drwy'r tymor. Golyga hyn ymarfer cyson o leiaf ddwywaith yr wythnos ( nos Fawrth a nos Iau) gan ganolbwyntio ar gyflymder ar un o’r sesiynau a chanolbwyntio ar waith uchel ei ddwysder ar y noson arall. Yn ogystal, ceir ymarfer llai dwys (er enghraifft drwy godi pwysau) ar nos Fercher, a gorffwys ar nos Wener (os oes gem ar y Sadwrn) cyn cynnal sesiwn adferiad ( megis nofio neu feicio) ar y Sul, cyn gorffwys eto ar nos Lun.
Tra mae chwaraewr pêl droed yn gallu ymarfer yn gymdeithasol gyda’i gyd chwaraewyr fel aelod o dîm, dyn unig ydi'r dyfarnwr ! Ond, i ddod dros y broblem ynysig yma, mae nifer o ddyfarnwyr yn trefnu i gyd ymarfer , fel mae Iwan yn ei wneud, mewn canolfan addas, megis trac rhedeg neu gae bel droed lleol.
Ond tydi paratoi ddim wedi ei gyfyngu i gadw’n ffit a heini! Rhaid sicrhau fod y dillad addas ac adnoddau eraill i gyd ar gael. Rhaid cario dau set o bopeth (crysau gwahanol liw, rhag ofn bod yna wrthdrawiad mewn lliw a'r timau, ac adnoddau megis oriawr, chwiban , a disgwylir i bob dyfarnwr yn Uwch Gynghrair Cymru gyrraedd y stadiwm mewn siwt.
Mae Dyfarnwyr Uwch Gynghrair Cymru yn cael ei offer i gyd gan y gymdeithas Bel Droed gan gynnwys y system gyfarthrebu i gysylltu â’r cynorthwywyr, sy’n cyfrannu'n dda at gysondeb a'r safon a ddisgwylir gan y dyfarnwyr.
Bydd rhaid sicrhau fod lliwiau crysau'r ddau dîm ddim yn gwrthdaro ac i'r perwyl yma, mae'n ofynnol i'r ddau dîm osod y crysau yn ystafell y dyfarnwr cyn y gêm er mwyn eu gwirio. Disgwylir i'r dyfarnwr deithio yng nghwmni'r cynorthwywr, cyrraedd awr a hanner cyn y gen, cyfarfod aseswr y dyfarnwr sydd wedi ei benodi gan yr Uwch gynghrair. Ar ol archwilio’r cae mae hi’n amser i restr y timau gael ei cyflwyno dim hwyrach na awr cyn y gêm yn ogystal ag enwau'r eilyddion a'r rheini sydd yn gymwys i eistedd ar y fainc wrth yr ystlys.
Ie, tipyn o waith a hynny i gyd cyn i'r gêm hyd yn oed gychwyn!
Yna ar ôl y gêm cynhelir cyfarfod ar aseswr eto am adborth a thrafodaeth ynglŷn ag unrhyw ddigwyddiad dadleuol, cyn codi pac a throi am adref. Ond hyd yn oed erbyn hyn, tydi'r gwaith ddim drosodd! Petai unrhyw chwaraewr wedi derbyn cerdyn melyn neu goch - bydd rhaid anfon y rheswm am hyn, drwy gyswllt electroneg, i'r Uwch gynghrair cyn dau o’r glochar y prynhawn Llun dilynol.
Ffansio bod yn ddyfarnwr? Tipyn o agoriad llygaid drwy sylweddoli fod y gwaith yn llawer mwy nad ydych yn ei wedi ei ddychmygu erioed mi dybiwn i. Felly cyn rhoi llond ceg a damnio’r dyfarnwr am wrthod gôl neu anwybyddu cic rydd, meddyliwch dwywaith am yr ymdrech a'r ymroddiad mae'r dyfarnwr, fel y chwaraewr , yn ei roi i sicrhau tegwch yn ein gemau pêl droed, yn rhyngwladol, genedlaethol neu ar lefel lleol.
Tipyn o daith ers pan oedd Wali Tomos yn rhedeg y llinell!
Na fernwch fel na'ch barner! Ie wir – y feri peth, ffanciw!
