Balmoral yw cartref enwog y frenhines yn ucheldir yr Alban a chredwch neu beidio, ond Cymro Cymraeg yw uwch warden yr ardal hyfryd yma.
Ym mis Ebrill, cefais y fraint o deithio o amgylch y stad gyda Glyn Jones, yn wreiddiol o Langefni ar Ynys Môn, wrth iddo gyfri rhai o'r adar prin sy'n byw yno.
Roedd gofyn gadael fy ngwesty yn Grantown-on-Spey am 4 y bore a theithio dros y rhostiroedd er mwyn cyrraedd Balmoral cyn iddi wawrio.
Wedi cwrdd â Glyn, i ffwrdd a ni wedyn trwy'r goedwig pinwydd yr Alban ac allan i'r mynydd agored. Yma, mewn llecynnau agored, mae grugieir duon yn arddangos yn gynnar yn y bore. Mae'r adar yma'n brin iawn ym Mhrydain ond y bore hwnnw ar stad Balmoral, gwelsom bron i hanner cant o geiliogod yn ceisio denu'r ieir di-liw i gymharu.

Grugiar Du
Yn ogystal â grugieir duon, mae'r ystâd hefyd yn gartref i geiliogod y coed (capercaillie), adar hynod o brin sy'n goroesi yng nghoedwigoedd pinwydd yr Alban, y bele goed (pine marten), eryr aur a cheirw coch.
Er gwaethaf yr holl chwilio, ni welais y bele na'r eryr ond roedd digonedd o geirw i'w gweld ar y mynyddoedd uchel.
Heb os, mae Balmoral mewn ardal gwyllt, godidog a does dim dwywaith bod Glyn wrth ei fodd yn byw a gweithio yno. Yn wir, mae wedi priodi merch leol ac yn dad i ddwy o ferched felly go brin bydd yn gadael ucheldir yr Alban i ddychwelyd i Langefni yn y dyfodol agos.
