Main content

Cartrefi Cymru: Caer Gai

Twm Morys

Cyflwynydd Cartrefi Cymru

Rhyw ysgrif bach ddigon od ydi ysgrif OM am Gaer Gai, hen blasty hanesyddol heb fod yn bell o Lanuwchllyn yn ei ardal enedigol. Dydi o ddim yn galw yn y tŷ yn ôl ei arfer. A dweud y gwir, yr argraff a gefais i wrth ddarllen y darn ydi mai sgrifennu oddi ar ei go’ roedd o, ar y trên, efallai. Mae hi’n debycach i nodiadau ar gyfer erthygl neu sgwrs nag i ysgrif orffenedig. Y tebyg ydi mai darn bach i lenwi twll yn y gyfrol Cartrefi Cymru oedd o. Ond o’r holl lefydd y bûm i ynddyn nhw ar drywydd OM, yng Nghaer Gai y teimlwn agosa’ at orffennol Cymru!

Mae’r tŷ yng nghanol hen gaer Rufeinig yn un peth, a gallwn fod wedi treulio dyddiau yno yng nghwmni’r archeolegydd, Rhys Mwyn. Ac mi aeth rhyw ias drwydda i pan estynnodd Owen Siôn o Lanuwchllyn focs sgidiau a’i lond o greiriau sydd wedi dod i’r golwg ar hyd y blynyddoedd wrth aredig tir Caer Gai.

Twm Morys a Rhys Mwyn

Bu’n gartre i feirdd: Tudur Penllyn, a hefyd ei wraig Gwerful Fychan. Mae hi yn cael ei drysu gan lawer (ac OM yn eu plith!) a bardd arall o ddynes, Gwerful Mechain, oedd yn nodedig am ei cherddi masweddol; disgynnydd iddi hi oedd Rowland Fychan, y bardd a’r brenhinwr mawr oedd yn byw yng Nghaer Gai adeg Cromwell. Ac mae’r hanesydd lleol Beryl Griffiths yn siarad am y rhain i gyd fel tasai wedi eu nabod nhw!

Caer Gai

Mae Caer Gai’n gartre heddiw i Alan a Liz Jones (Alan yn perthyn i OM) sydd wedi magu teulu yno, ac yn ei chyfri yn fraint cael byw yn y fath dŷ, a gofalu amdano.

Gair am y gerddoriaeth! Mae angen cerddoriaeth weithiau i hel y stori yn ei blaen! Ond byddwn bob amser yn dewis cerddoriaeth sy'n berthnasol mewn rhyw ffordd. Un o emynau Ann Griffiths, er enghraifft, wrth ymweld â chartref Ann Griffiths, neu weithiau rhyw gân music-hall boblogaidd o’r un flwyddyn â thaith OM. Mae’r gerddoriaeth sy’n gyfeiliant i dro bach Rhys Mwyn a fi o amgylch y gaer Rufeinig yn rhaglen Caer Gai yn swnio yn ddwyreiniol iawn. Ond cerddoriaeth delyn Rufeinig ydi hi. Miwsig telyn ‘gothig’ o gyfnod Rowland Fychan sydd wedyn.

Cartrei Cymru: Rhaglen 3

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Byd Iolo: Jim Bach