Main content

Datblygiad Cei Connah

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ymddengys fod clwb Gap Cei Connah gyda’r bwriad o droi yn glwb pêl droed llawn amser.

Daeth y cyhoeddiad yr wythnos yma wrth i'r clwb ddatgan eu bod wedi penodi Dean Garnett fel prif sgowt llawn amser y clwb.

Y bwriad yn ôl gwefan y clwb ydi sefydlu carfan ddatblygiadol elitaidd ar gyfer y tymor nesaf drwy ddatblygu chwaraewyr a fydd yn rhan allweddol o’r tîm yn y dyfodol.

Mae Garnett ei hun yn gyn chwaraewr llawn amser gyda Chaergrawnt a Preston North End a’i friff fydd chwilio am chwaraewyr rhwng 18 a 23 oed a fydd yn ymestyn, drwy ymglymiad llawn amser, safonau'r clwb yn y dyfodol.

Dywedodd Gary Dewhurst, perchennog y clwb, mai ei amcan ydi gwneud uwch gynghrair Cymru yn fwy cystadleuol, ac mae’n gobeithio y bydd Cymdeithas Bel Droed yng Nghymru, a’r cefnogwyr yn cefnogi'r fenter yma.

Mae hefyd yn gobeithio y gellir cystadlu yn well yn erbyn y Seintiau Newydd, sef yr unig dîm llawn amser ar hyn o bryd , gan ddyfynnu’r esiampl o chwaraewyr rhan amser, sydd yn gweithio drwy'r wythnos , ac yn ymarfer dwy noson yr wythnos yn ceisio cystadlu yn erbyn tîm llawn-amser.

Drwy ail drefnu Cei Conna , mae Dewhurst yn gobeithio y gellir lleihau'r bwlch a dod a'r uwch gynghrair yn fwy cystadleuol tra’n ymdrechu i godi safonau pêl droed ar Lannau'r Ddyfrdwy.

Diddorol fyddai gweld yr ymateb .

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf