Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Ionawr 14eg - 21ain 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Gerallt Pennant - Branwen

crwban - tortoise

neidr - snake

saith troedfedd - seven feet

creaduriaid - creatures

ieir - hens

ceiliog ffesant - pheasant cock

cewyll - baskets

broga - frogs

madfallod - lizards

llyffantod - toads

...mae Branwen y crwban yn byw yn ysgol San Sior Llandudno, ond nid hi ydy'r unig anifail sy'n byw yn yr ysgol, fel y buodd Ian Keith y pennaeth yn egluro wrth Gerallt Pennant ar Galwad Cynnar fore Sadwrn...



Beti a'i Phobol - Dewi Tudur

ail-brofi - to experience again

cilio - to retreat

chwalu - break down (of marriage)

ymdopi - coping

peri loes - to cause pain

adloniant - entertainment

euogrydd - guilt

taro'r hoelen ar ei phen - hit the nail on its head

achubiaeth - salvation

cyffuriau - drugs

"Ia, y plant, peidiwch ag anghofio'r plant! Pennaeth Sw, mae'n ddrwg gen i, Ysgol San Sior Llandudno yn siarad efo Gerallt Pennant yn fan'na. Athro oedd Dewi Tudur, yr artist o'r Wyddgrug, hefyd ac mi fuodd o'n gweithio mewn sawl ysgol uwchradd. Ond erbyn hyn mae o'n byw yn Fflorens a fo oedd gwestai Beti George dydd Sul diwetha. Dyma Dewi yn sôn wrth Beti am adeg anodd iawn gafodd o rai blynyddoedd yn ôl a sut gwnaeth gwyliau yn yr Eidal newid ei fywyd ... "



Bore Cothi - Dafydd Tudur Cartwright

fatha - fel

mae'r gweddill yn hanes - the rest is history

yn y gwaed - in the blood

bywoliaeth - livelyhood

ystyried - to consider

disgybledig - disciplined

wrach (hwyrach) - perhaps

teithio'r byd - travelling the world

ar yr adeg - at the time

priodasau - weddings

"Mae'n bosib i chi glywed mwy o'r sgwrs yna nos Iau am chwech, neu mi allwch chi lawr lwytho podlediad rhaglen Beti a’i Phobol os ewch i dudalen Beti a’i Phobol ar wefan Radio Cymru.

Buodd Shan Cothi yn defnyddio Skype er mwyn sgwrsio efo un o'i gwestai ddydd Iau sef y drymiwr Dafydd Tudur Cartwright oedd draw yn San Paulo Brasil. Mae Dafydd yn dod o Ddinbych yn wreiddiol ond mae o nawr yn gweithio fel drymiwr proffesiynol ac yn chwarae i fand roc o Ganada. Sut digwyddodd hynny tybed? Mi gewch chi wybod yn y clip nesa 'ma..."



Aled Hughes - Phillip Moore

cyfres - series

meddygon o dramor - doctors from abroad

gwefan - website

cleifion - patients

yn benderfynol - determined

cyfathrebu - communicating

mamiaith - mother tongue

yn falch iawn - very proud

meistrolgar - masterly

"Dafydd Tudur Cartwright oedd hwnna yn siarad o Frasil efo Shan Cothi. Os dach chi wedi bod yn gwylio'r gyfres 'Ward Plant' ar S4C mi fyddwch yn siwr o fod wedi gweld y meddyg Mr Phillip Moore yn siarad Cymraeg efo'r plant a'u rhieni yn Ysbyty Gwynedd. Mae Philip yn dod o Barbados ac mae wedi dysgu siarad Cymraeg yn rhugl. Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes am ei brofiad o ddysgu Cymraeg... "

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Datblygiad Cei Connah

Nesaf

Camp Rhys Healy