Mae Jimmy Delaney yn chwaraewr sydd wedi chware yn uwch gynghreiriau tri o wledydd Prydain, a hefyd fe lwyddodd i ennill Cwpan yr Alban gyda Celtic yn 1937, Cwpan Lloegr gyda Manchester United yn 1948, a Chwpan Gogledd Iwerddon gyda Dinas Derry yn 1954.
Ond, mae yna chwaraewr arall, cyfoes, sydd yn gallu cystadlu a champ Delaney o chwarae mewn tri o uwch gynghreiriau Prydain.
Cychwynnodd Rhys Healey, blaenwr presennol Caerdydd, a sgoriodd unig gol y gêm yn erbyn Burton Albion yr wythnos diwethaf, ei yrfa gyda thîm Cei Connah yng Nghynghrair Huws Gray cyn ennill dyrchafiad, a chwarae ugain gem i'r clwb yn Uwch Gynghrair Cymru, gan sgorio deuddeg gol.
Daeth ei allu i sylw Caerdydd ac fe ymunodd a hwy yn 2013 a'r tymor dilynol fe ddaeth oddi ar y fainc yn y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr, yn erbyn Chelsea, ar Sadwrn olaf y tymor, wrth gymryd lle Craig Bellamy.
Yna ar ôl cyfnod ar fenthyg yn Colchester, fe aeth Healey ar fenthyg i'r Alban gan chwarae saith gem yn Uwch Gynghrair yr Alban i Dundee.
Tybed a oes yna chwaraewr arall sydd wedi cyflawni camp debyg?
Yn y cyfamser, bydd cyn clwb Healey, Cei Connah yn chwarae ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru'r Sadwrn yma, oddi cartref yn Hwlffordd, gem a ddylai weld y Cei yn camu i’r wyth olaf, yng nghwmni'r Seintiau Newydd, Coleg Met Caerdydd, y Derwyddon, a’r Bala.
Bydd Bangor yn croesawu Llandudno, a hwyrach mai'r fantais o chwarae adref fydd yn helpu'r Dinasyddion i gamu ‘mlaen, ond beth am y Rhyl ac Aberystwyth?
Bydd Aberystwyth, sydd yn cael tymor siomedig, adref i Brestatyn sydd ar flaen y gad yng nghynghrair Huws Gray, 13 o bwyntiau o flaen pawb arall ac wedi colli ond unwaith drwy'r tymor, mewn chwe gem ar hugain.
Yn ogystal, maent wedi sgorio dros gant o goliau hyd ynn hyn ac os fydd aber am roi terfyn ar y rhediad trawiadol yma, fe fydd rhaid iddynt berfformio llawer gwell na maent wedi ei wneud hyd yn hyn .
Draw ar yr Ofal bydd Caernarfon , sydd yn yr ail safle yng Nghynghrair Huws Gray, yn wynebu Rhyl, sydd eu hunain braidd yn anghyson er iddyn nhw guro’r Cofis o bum gol i un yng Nghwpan Nathaniel MG ‘nol ym mis Medi
Tipyn o gêm felly ac anodd rhagweld be wnaiff ddigwydd.
