Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Ionawr 21ain-28ain

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Bore Cothi - Grant Paisley

dychmygu - to imagine

y byd - the world

allet ti feio - you could blame

mae'r gweddill yn hanes - the rest is history

y genedl - the nation

Prydain - Britain

Aberdhonddu - Brecon

diwylliant - culture

hanfodol - essential

hafal - equal

"...dw i'n siwr eich bod chi i gyd wedi cofio am ddydd Santes Dwynwen dydd Mercher diwetha, ond oeddech chi'n gwybod bod yna ddiwrnod arbennig arall yn cael ei ddathlu dydd Iau diwetha sef Dydd Awstralia. Wel mi roedd Shân Cothi'n gwybod ac mi gafodd hi sgwrs ddiddorol efo Grant Paisley gafodd ei eni a’i fagu yn Sydney Awstralia. Mae Grant wedi dysgu Cymraeg ar ôl iddo fo gyfarfod â Lois, sydd yn dod o Ogledd Cymru, pan oedd hi'n teithio o gwmpas Awstralia. Mae Lois a Grant yn briod erbyn hyn ac yn byw yn Llandwrog ger Caernarfon ac mae ganddyn nhw ddau fab, Nedw a Caio. Dyma Grant yn disgrifio sut wnaeth o gyfarfod â Lois..."



Post Cyntaf - Byw efo canser

hyder - confidence

gwyrthiau - miracles

ymwybodol - aware

cymeradwyaeth - applause

colur - make-up

bathodyn o ddewrder - a badge of bravery

moelni - baldness

anesmwytho - to feel unease

dygymod â - to cope with

croen - skin

Stori ramantus Grant a Lois yn fan'na i ddathlu Dydd Santes Dwynwen ac wrth gwrs Dydd Awstralia yn ogystal. Mae'n debyg ein bod ni i gyd yn nabod rhywun sydd yn diodde neu sy wedi diodde o ganser. Ond ydach chi wedi clywed am yr elusen Look Good Feel Better? Mae'r elusen yn trefnu sesiynau harddwch am ddim, er mwyn helpu cleifion cansyr ddelio ag effeithiau fel colli gwallt ar ôl cael chemotherapi. Ar Post Cyntaf ddydd Mercher clywon ni sgwrs rhwng Rhian Price a dwy Sharon Jones, un yn nyrs a'r llall yn un o'r cleifion yn Ysbyty Glan Clwyd. Dyma hi'n siarad am y gwasanaeth mae hi wedi ei dderbyn gan yr elusen...



Aled Hughes - GoggleSbrogs

ar y llwyfan - on the stage

enwog - famous

am byth - for ever

y wobr - the prize

gwerth ei gweld - worth seeing

wedi gwirioni - delighted

y gynulleidfa - the audience

byd o wahaniaeth - a world of difference

addoli - to adore

bythgofiadawy - unforgetable

"Stori yn fan'na am waith da gan yr elusen Look Good Feel Better, sydd yn cynnig eu gwasanaeth am y tro cynta yng Ngogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd. Bore Iau mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo dau o sêr GoggleSbrogs sef Molly a William o Landeilo. Nos Fercher mi fuodd Molly a William yn Llundain, ar gyfer seremoni arbennig iawn - Gwobrau Teledu Prydain 2017. Roedden nhw'n cymryd rhan yn y seremoni a nhw gafodd roi'r wobr fawr i Mary Berry. Be oedden nhw'n gofio o'r noson tybed...? "



Bore Cothi - Teledu Awstralia

gorfod - to have to

oes aur - golden age

cydio - to grasp

ar rai brydiau - at some times

geiriol - verbal

pennaeth - chief/head

mam-gu - nain

sioeau cerdd - musicals

llys-dad - step father

ti'n 'bod - rwyt ti'n gwybod

"Noson i'w chofio yn fan'na i Molly a William y GoggleSbrogs o Landeilo! Roedd yna ragor o sôn am Ddydd Awstralia ar Bore Cothi dydd Iau, ond tro 'ma Heledd Cynwal oedd yn sgwrsio efo Alun Saunders am raglenni teledu o Awstralia, fel Neighbours. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Camp Rhys Healy

Nesaf

Arian i goffrau Y Bala