Main content

Arian i goffrau Y Bala

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn ystod cystadlaethau rowndiau terfynol Ewro 2016, fe newidiodd y Bala ei henw (yn answyddogol) ar arwyddion y dref i Bale - fel cefnogaeth i Gymru allan yn Ffrainc.

Fodd bynnag, ychydig fyddai rhywun wedi meddwl y byddai’r Bala, erbyn heddiw, wedi elwa o ymdrechion timau pêl droed a fu’n cystadlu am le yn yr Ewros.

Daeth yr elw annisgwyl fel cyfraniad ariannol gan UEFA un sgil cynhwysiant eu hamddiffynwr David Artell yn nhîm cenedlaethol Gibraltar yn y gemau rhagbrofol.

Gan iddo chware mewn pum gem, mae’r Bala wedi derbyn bron £18,000 o elw a wnaeth UEFA allan o’r Ewro 2016.

Ymunodd Artell, sydd erbyn hyn yn rheolwr ar glwb Crewe Alexandra, â’r Bala ym mis Gorffennaf 2014, gan chware 39 o gemau i dîm Maes Tegid.

Arian annisgwyl efallai, ond i glwb yn uwch gynghrair Cymru, mae’n gyfle arall i wella adnoddau a gwella’r tîm.

Juventus o’r Eidal gafodd y mwyaf o arian o’r drefn yma, sef bron i dair miliwn o bynnau.

Dim ond dau glwb arall yng Nghymru sydd wedi derbyn arian yn sgil Ewro 2016, sef Caerdydd, £337,662 ac Abertawe ychydig dros filiwn.

Felly, y Bala yn cadw cwmni da ar lwyfan Ewrop !

Tybed os yw hyn am agor y drws i chwilio am chwaraewyr fel Artell sydd yn chwarae i wledydd bychain, ac yn sgil hyn yn gallu dod ac incwm ychwanegol ac annisgwyl i'w clybiau!

Rhywbeth i'w ystyried!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i ddysgwyr Ionawr 21ain-28ain

Nesaf

Geirfa Pigion i ddysgwyr 30 - 5ed o Chwefror 2017