Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Aled Hughes - Hacio
safbwynt - point of view
gwyliadwrus - cautious
yn wirioneddol - really
ail-adeiladu - rebuild
difrifol - serious
meddalwedd - software
lleidr - thief
co' bach - memory stick
manylion cyfrifon - account details
cyfrinair - password
"...mi gafodd y wefan gerddoriaeth Gymraeg, Apton, ei hacio yr wythnos diwetha. Mae'r wefan yma yn debyg i Spotify yn Saesneg ac mae pobl yn medru gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn rhad iawn drwy fynd arni. Roedd Aled Hughes eisiau gwybod oedd hacio'n digwydd yn amlach y dyddiau yma? Dyma oedd gan Dafydd Llywelyn o North Wales Networks i'w ddweud..."
Straeon Bob Lliw - Ffion Dancapel
Rhuban Glas - Blue ribbon
cyfrifydd - accountant
gwrandawiadau - auditions
unawdol - solo
datblygu gyrfa - developing a career
mentro - take a risk
difaru - regretting
pwyso a mesur - to evaluate
hanfod - the essence
cyfoethogi - to enrich
"Wel does na ddim esgus rwan felly - defnyddio cyfrinair Cymraeg bob tro! Enillodd Ffion Haf, o Fferm Dancapel, y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn yn 2015. Dyma'r brif wobr i gantorion yn yr Eisteddfod, ond mae ganddi benderfyniad anodd i'w wneud rwan. Ydy hi am gario ymlaen i weithio fel cyfrifydd neu ydy hi am drio bod yn gantores broffesiynol? Gofynnodd Ffion i Nia, buodd yn ei dysgu i ganu, beth oedd ei barn hi am y penderfyniad? Dyma i chi flas ar eu sgwrs..."
De Tomos - Aneurin ac Eurig
arolwg ac ymchwil - survey and research
dyddiad cyfatebol - corresponding date
yn frwnt - dirty
llwyfan - stage
cyfarch - to acclaim
y dorf - the crowd
cyhoeddi - publish
awdl - ode
digalonni - to despair
y ffwlbri - the nonsense
"Dw i'n siwr byddwn ni'n clywed llawer mwy am Ffion yn y dyfodol. Siarad oedd hi ar Straeon Bob Lliw sydd i'w glywed bob nos Lun ar Radio Cymru. Dan ni'n aros efo'r Eisteddfod Genedlaethol am y clip nesa. Yn y Fenni oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016, a dydd Mawrth mi gafodd Dei Tomos gwmni dau o enillwyr prif wobrau'r Eistedfod honno - Aneurin Karadog ac Eurig Salisbury. Ennill y gadair wnaeth Aneurin ac enillodd Eurig y fedal ryddiaith am ysgrifennu nofel. Roedd Dei eisiau gwybod sut gaethon nhw wybod eu bod wedi ennill - llythyr yn y post tybed?"
Aled Hughes - To Bach
cael gwared - to get rid of
del - pert
newydd nharo i - just struck me
ni biau - we own
er enghraifft - for example
tant - string of musical instrument
wyddwn i ddim - I didn't know
gwanahiaethu - to differentiate
sain - sound
di-ystyr - meaningless
Dim hatrick i Eurig felly. Tybed sawl to bach sydd yn nofel Eurig - cannoedd o bosib. Ond oes yna bwrpas i'r marc rhyfedd hwn, a beth am y ddwy 'nn'? Ydach chi'n deall pryd mae'n rhaid eu defnyddio nhw? Roedd y pethau hyn yn poeni cymaint ar Aled Hughes aeth i gael gair amdanyn nhw efo Geraint L?vgreen a dyma oedd ganddo fo i'w ddweud ...
