Main content

Blog cefn llwyfan Nia - dydd Mercher

Nia Lloyd Jones

Gohebydd Radio Cymru

Tagiwyd gyda:

'Dach chi erioed wedi gweld Tazgaliwn? Cyfuniad o Tarzan a Rapsgaliwn ydy o ac mi roedd 'na un ar y llwyfan bore ma - yn rhan o gân actol Ysgol Panteg.

George o Ysgol Panteg fel Tazgaliwn

Dyma'r tro cyntaf erioed i'r ysgol gystadlu a dim ond blynyddoedd meithrin, 1 a 2, sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd, felly roedd pawb ar y llwyfan yn 5, 6 neu 7 oed.

George oedd y Tazgaliwn dan sylw heddiw, er gwaetha'r ffaith ei fod o wedi colli dant ddoe, a doedd bod ar y llwyfan ddim yn brofiad brawychus o gwbl iddo - gan ei fod o wedi bod ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol nôl yn 2010 yng Nglyn Ebwy fel rhan o'r pasiant meithrin - hen stejar go iawn!

Mae gan Math Roberts draed maint naw ac oherwydd hynny fe ddewisodd o ganu'r delyn yn ei sanau - rhag ofn i'w esgidiau achosi trafferth hefo pedalau'r delyn!

Côr Adran y Neuadd Fach

Nest Jenkins enillodd y gystadleuaeth unawd telyn heddiw - a dyma chi delynores ddawnus a phrofiadol iawn, ac wedi teithio llynedd i Bangkok i berfformio mewn Gwyl Delynau yno.

Tra roeddwn i ar ganol sgwrs p'nawn ma fe ddaeth na waedd fawr o gefn llwyfan wrth i Gôr Adran y Neuadd Fach glywed eu bod wedi ennill y gystadleuaeth i'r Côr Adran, a hynny er gwaetha'r ffaith bod Lowri - un aelod o'r côr wedi colli ei esgidiau du rhywle ar y maes yma, ac o ganlyniad yn gorfod perfformio yn ei sanau. Dach chi'n gweld bod gen i thema sanau yn datblygu heddiw?!

Mae Tom Felix-Rowlands yn ddawnsiwr talentog iawn ac yn dipyn o arbenigwr ar 'redeg rhydd' hefyd - sef rhyw fath o gymnasteg sydd yn cynnwys elfen o redeg i fyny waliau hefyd! 

Ac i gloi'r dydd, fe ges i air hefo ymgomwyr Ysgol Gyfun Garth Olwg - sef Harri, Georgia, Elan a Tomos. Mae Tomos yn wyneb cyfarwydd i lawer gan mai fo ydy Ricky ar Pobl y Cwm, ac yn ôl y tri arall mae cerdded o gwmpas y maes hefo fo yn broses araf iawn oherwydd bod pawb eisiau cwrdd â Ricky!

A dyna ddiwedd ar ddiwrnod arall prysur o gystadlu, ac i gadw ar y thema traed - dw i'n dawel hyderus na fydd fy nhraed i yn y wellingtons fory.

Tagiwyd gyda:

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Arwerthiant Pel-droed