Main content

Radio Cymru yn dilyn pob un o gemau Cymru yn Siapan a thaith y Llewod

Newyddion

Gall cefnogwyr rygbi edrych ymlaen at glywed sylwebaeth fyw yn y Gymraeg o gemau prawf Cymru yn erbyn Siapan a holl gemau taith Llewod Prydain ac Iwerddon yr haf hwn ar BBC Radio Cymru, gan gynnwys tair gêm brawf y Llewod yn erbyn y Wallabies.

Meddai Siân Gwynedd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru “Rydyn ni’n falch iawn o gael darparu yr unig sylwebaeth fyw o bob gem yn y Gymraeg ar gyfer gemau’r Llewod – rydyn ni’n gwybod cymaint mae ein gwrandawyr yn mwynhau rygbi rhyngwladol ar Radio Cymru, ac mae’r daith bob pedair blynedd yn uchafbwynt i nifer. Heb anghofio taith Cymru i Japan lle bydd cyfle i’n gwrandawyr glywed am sêr y dyfodol, dan arweiniad Robin McBryde."

#llewod

Gareth Charles fydd yn arwain tîm sylwebu BBC Radio Cymru, a dywedodd “Cyfres Awstralia yn erbyn y Llewod fydd uchafbwynt chwaraeon yr haf, ac fe fyddwn ni’n cyfleu holl gyffro a brwdfrydedd y daith i wrandawyr Radio Cymru. Gyda 15 o chwaraewyr o Gymru, yn ogystal â Warren Gatland yn arwain yr hyfforddi, bydd digon o enwau cyfarwydd yn ymuno â ni wrth i ni ddarlledu o Hong Kong i ddechrau, yna ledled Awstralia.”

Bydd Gareth yn dilyn hynt a helynt y Llewod ar ochr arall y byd yng nghwmni Owain Llŷr gyda lleisiau cyfarwydd eraill yn ymuno o Gymru gan gynnwys Ken Owens, Bethan Clement ac Eleri Siôn.

Yn Siapan, Cennydd Davies a Gareth Rhys Owen fydd yn darlledu’n rheolaidd wrth i garfan ifanc Cymru dan law’r hyfforddwr Robin McBryde herio’r Siapaneaid mewn dwy gêm brawf. Ceir sylw arbennig i’r ddwy ymgyrch ar raglen Dafydd a Caryl ond bydd cyfle i glywed y newyddion diweddaraf ar draws rhaglenni’r orsaf yn ystod y cyfnod cyffrous hwn.

Cadwch lygad hefyd ar wefan Radio Cymru fydd yn cynnwys, yn ogystal â deunydd archif yn bwrw golwg nôl ar ymgyrchoedd hanesyddol y Llewod yn y gorffennol, blog wythnosol o galon carfan y Llewod gan y canolwr, Jonathan Davies.

Dyma fanylion y gemau, gyda’r amseroedd dechrau yng Nghymru:

Taith y Llewod

1.06.2013 Barbariaid, Hong Kong 12.15pm ar yr awyr, 12.30pm gêm yn dechrau

5.06.2013 Western Force, Perth 10.30am ar yr awyr, 11am gêm yn dechrau

8.06.2013 Queensland Reds, Brisbane 10am ar yr awyr, 10.30am gêm yn dechrau

11.06.2013 Tîm cyfunol NSW-QLD, Newcastle 10.15am ar yr awyr, 10.30am gêm yn dechrau

15.06.2013 NSW Waratahs, Sydney 10am ar yr awyr, 10.30am gêm yn dechrau

18.06.2013 ACT Brumbies, Canberra 10.15am ar yr awyr, 10.30am gêm yn dechrau

25.06.2013 Melbourne Rebels, Melbourne 10.15am ar yr awyr, 10.30am gêm yn dechrau

Gemau Prawf

22.06.2013 Awstralia, Y Prawf Cyntaf, Brisbane 10.30am ar yr awyr, 11am gêm yn dechrau

29.06.2013 Awstralia, Yr Ail Brawf, Melbourne 10.30am ar yr awyr, 11am gêm yn dechrau

6.07.2013 Awstralia, Y Trydydd Prawf, Sydney 10.30am ar yr awyr, 11am gêm yn dechrau

Cymru yn erbyn Siapan

8.6.2013 Siapan, Y Prawf Cyntaf, Osaka 5.55am ar yr awyr, 6am gêm yn dechrau

15.6.2013 Siapan, Yr Ail Brawf, Tokyo 5.55am ar yr awyr, 6am gêm yn dechrau

Felly os am glywed sylwebaeth fyw yn Gymraeg o Awstralia, dilynwch bob cic a phob cais, pob pwynt ym mhob gêm ar BBC Radio Cymru, ar-lein (y DU yn unig) ac ar Twitter #llewod

Gwefan Taith y Llewod BBC Radio Cymru

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog cefn llwyfan Nia - dydd Mercher

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 30 Mai 2013