Faint o geriach sydd gennych chi yn yr atig?
Os ydych , fel fi yn un am gasglu a chadw pob math o drugareddau yn ymwneud a pheldroed, yna hwyrach fe fydd yna reswm ichi ymweld ag arwerthiant Bonhams yng Nghaer ar y pedwerydd ar bymtheg o Fehefin.
Yno, mae ocsiwn o eitemau o fyd chwaraeon, gan gynnwys nifer o eitemau yn ymwneud a pheldroed.
Tra cewch gynnig am grys replica Cymru wedi ei arwyddo gan Gareth Bale, neu grysau a wisgwyd dros Gymru gan Craig Bellamy neu Robert Page. Yn ogystal mae yna grys Manchester United fel ac y gwisgwyd gan Ryan Giggs hefyd yn yr arwerthiant.
Ond yr eitem fwyaf costus yn ei amcangyfrif o werth ydi medal enillwyr Cwpan y F.A. yn 1926, sef Bolton Wanderers. Disgwylir i’r fedal yma gael ei gwerthu am rywbeth rhwng pump a saith mil o bunnoedd, tra mae medal Everton, enillwyr y Gwpan yn 1906, yn debygol o gael ei gwerthu am ryw bump neu chwe mil o bunnoedd.
Os am brynu rhaglen peldroed, mae rhaglen gem olaf Manchester United, cyn trychineb Munich, sef y gêm oddi cartref yn Red Star Belgrade yn cael ei gynnig am ryw ddwy fil o bunnoedd.
Bydd un o gapiau rhyngwladol John Charles ar werth hefyd , o dymor 1953 am y gemau yn erbyn Gogledd Iwerddon, Ffrainc ac Iwgoslafia. Amcangyfrif o werth y cap yn ôl Cwmni o arwerthwyr? Rhwng dau a thri mil o bunnoedd.
Rhyw ddwy flynedd yn ôl fe es draw i weld un o’r ocsiynau yma yng Nghaer, ble roedd y fedal a enillodd George Best yn 1968 wrth ennill Cwpan Ewrop dros Manchester United yn erbyn Benfica, yn cael ei gwerthu am £156,000! Gallaf eich sicrhau fy mod ac ofn chwythu fy nhrwyn, rhag ofn i rywun feddwl fy mod yn rhoi cynnig!
Ond os ydych ynn casglu rhaglenni, yna byddwch â diddordeb yn y stori am y rhaglen o ffeinal Cwpan Lloegr, a gynhaliwyd ar faes yr Oval yn 1882, sef y gêm rhwng Old Etonians a Blackburn Rovers . Gwerthwyd y rhaglen yma yn ddiweddar am £35,250.
Pwysigrwydd y gêm ydi mai dyma’r tro olaf i dîm amatur fod yn llwyddiannus yn y Gwpan, yr Etonians yn fuddugol o un gôl i ddim yn erbyn tîm proffesiynol newydd Blackburn Rovers.
Cyn yr arwerthiant yma gafodd ei gynnal ar ddechrau’r mis yma, y pris mwyaf a dalwyd am raglen gem beldroed oedd £25,5000 a hynny am ffeinal Capan y F.A. yn 1909 rhwng Manchester United a Bristol City.
Gyda llaw, clwb yr Old Etonians a brynodd y rhaglen am ei hen dîm yn y ffeinal bwysig yma yn 1886.
Mae'r clwb yn dal i barhau hyd heddiw a chael ei gynnal gan gyn-ddisgyblion ysgol fonedd Eton. Mae’n aelod o gynghrair cyn ddisgyblion ysgolion fonedd Prydain, sef Chynghrair Arthurian sydd yn cael ei warchod gan gyfundrefn y Gyngres Amatur Peldroed, ac yn annibynnol o drefn y Gymdeithas Beldroed erbyn heddiw.
Felly , os oes gennych ychydig o hen raglenni mewn bocs yn yr atig, yna dyma'r amser i balu trwyddynt. D’oes wybod beth y gallwch ei ddarganfod!
