Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr – Tachwedd 5ed–Tachwedd 11eg

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Aled Hughes - Llywelyn Williams

cystadlu - to compete

cadarnhad - confirmation

llydan - wide

cyffredin - normal

damwain - accident

ces i nharo - I was hit

am eiliad - for a second

rhywsut - somehow

penderfynol - determined

dy yrru di - drive you

…hanes Llywelyn Williams gollodd ei goes mewn damwain bum mlynedd yn ôl. Mae Llywelyn, sy'n dod o Abersoch ym Mhen Llŷn, yn hoff iawn o syrffio. Ond dydy'r ddamwain gaeth o ddim wedi ei stopio rhag cario 'mlaen efo'i ddiddordeb mewn syrffio. Er mai dim ond un goes sy ganddo rwan mae o'n gobeithio cystadlu yng Ngemau Paraolympaidd 2020. Aled Hughes gafodd air efo fo am y syrffio, ac am sut a pham wnaeth o benderfynnu dal ati...

Bore Cothi - Bethan Wyn Jones

planhigyn - a plant

enw gwyddonol - scientific name

cred - belief

chwysu - to sweat

saim gwydd - goose fat

hoglau - smell

hardda - prettiest

adnabyddus - recognisable

amrwd - raw

diogelu rhag heintiau - protect from diseases

Gobeithio byddwn ni'n gweld Llywelyn yn y gemau Parapolympaidd ynde? Mae na eira ar y mynyddoedd, mae'r gaeaf ar y ffordd os nad ydy o wedi cyrraedd yn barod. Dyma pryd mae llawer o bobl yn dal annwyd ynde? Be dach chi'n ei wneud i gadw'r annwyd draw? Bore Llun, Bethan Wyn Jones oedd yn dweud wrth Shan Cothi be ydy'r ffordd ora o gadw'n glir o’r annwyd drwy ddefnyddio pethau naturiol.

Aled Hughes - Morfudd Clark

o dy amgylch di - concerning you

anhygoel - incredible

arwain - leading

tu fas - outside

profiad cychwynnol - initial experience

dau fywyd gwahanol - two different lives

Bethan Wyn Jones yn fan'na yn rhoi gwybod i ni sut medrwn ni gadw'n glir o annwyd. Mae'r actores Morfydd Clark yn chwarae rhan Cordelia yn y ddrama King Lear sydd yn yr Old Vic yn Llundain ar hyn o bryd. Mae hi'n actio gydag enwau mawr fel Glenda Jackson a Rhys Ifans yn y ddrama. Sut brofiad ydy hynny tybed? Aled Hughes oedd yn holi.

Post Cyntaf - Donald Trump

synnu - surprised

o'n i wedi amau - I had suspected

y dalaith bwysica - the most important state

ei chipio hi - captured it

diffyg hyder - lack of confidence

sylfaenol - basic

bywoliaeth - livelyhood

lleiafrifol - minority

corddi (idiom) - irritated

cyfaddef - admit

Morfydd Clark yn gwneud ei marc yn yr Old Vic - cofiwch mai yma wnaethoch chi glywed amdani gynta! Roedd yna dipyn o sioc i bawb fore Mercher wrth glywed bod Donald Trump wedi ennill yr etholiad yn America, a fo rwan ydy un o'r bobl mwy pwerus yn y byd! Mae Ithel Jones yn byw yn Nhallahassee ac mi roedd o’n cefnogi Hilary Clinton. Dylan Jones oedd yn ei holi ar ôl i Donald Trump ennill yn Fflorida efo 49.1%. Oedd Ithel yn synnu bod Trump wedi ennill?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Sul y Cofio - pel-droed a rhyfel