Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr – Tachwedd 12fed–Tachwedd 18fed

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Gari Wyn - Cai Erith

ail swyddog - second officer

melinau gwynt - windmills

ymroi - to devote oneself

sbïo - edrych

bywoliaeth - livelyhood

morwrol - naval

ffasiwn gyfnewidiad - such a change

dylanwadau - influences

pysgotwr - fisherman

rhyfel - war

...amser cinio ddydd Llun mi gafodd Gari Wyn sgwrs efo gŵr ifanc o Uwchmynydd Aberdaron sydd yn byw dau fywyd gwahanol iawn. Mae Cai Erith Williams, sy’n drideg oed, yn treulio pedair wythnos adre efo’i deulu cyn mynd i weithio fel morwr am bedair wythnos arall. Mae Cai yn ail swyddog llong enfawr MPI Adventurer sef llong cwmni rhyngwladol MPI sydd yn codi melinau gwynt ym môr y Gogledd. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Aled Hughes - Plant Mewn Angen

Plant Mewn Angen - Children In Need

Bermo - Abermaw

roedden ni'n aros yn ein hunfan - we weren't moving

rhywfaint - some

disgyblion - pupils

casglu arian - raise money

egni - energy

pen-ôl - backside

brifo - anafu

chwythu - blowing

Cai Erith Williams yn fan'na yn sôn wrth Gari Wyn am ei waith fel morwr. Dydd Llun mi gychwynnodd Aled Hughes ar ei daith feic i godi arian i Blant Mewn Angen. Buodd yn seiclo 185 milltir o’r de i’r gogledd gan alw heibio o leiaf 40 o ysgolion. Pan gytunodd Aled i’r sialens yma, dw i ddim yn siŵr nad oedd o wedi disgwyl y gwynt a'r glaw i'w ddilyn yr holl ffordd, ond dyna ddigwyddodd yn anffodus! Dydd Iau, pan oedd y gwynt ar ei waetha roedd Aled wedi cyrraedd de Gwynedd, ac roedd rhaid iddo fo sieclo o Fryncrug i Benrhyndeudraeth. Wrth gwrs mi wnaeth alw heibio sawl ysgol ar y ffordd, ond sut groeso gafodd o tybed?

Bore Cothi - Bwlio Lily

Wythnos Cenedlaethol - National Week

codi ymwybyddiaeth - raising awareness

profiadau - experiences

lladd fy hun - to kill myself

uffern - hell

cefnigefnus - jealous

torri croen - to cut the skin

sylweddoli - to realise

oherwydd - because

casáu - to hate

Croeso anhygoel plant Gwynedd yn cadw Aled i fynd , a llongyfarchiadau iddo fo am orffen y daith a chodi swm mawr o arian i Blant Mewn Angen. Roedd hi’n wythnos cenedlaethol codi ymwybyddiaeth bwlio yr wythnos yma ac mi glywson ni nifer o bobl yn sôn am eu profiadau o fwlio ar Radio Cymru dros yr wythnos. Un o’r rheini oedd Lily sydd yn ugain oed erbyn hyn ond gafodd brofiad o gael ei bwlio pan oedd hi yn ei harddegau. Mi wnaeth y merched oedd yn bwlio Lily anfon negeseuon cas at ei ffrind gorau...

Dan yr Wyneb - Pabi Coch

heddwch - peace

datganiad - a statement

pwysau - pressure

yn ddieithriad - without exception

dibrisio - to devalue

y wladwriaeth - the state

i'r gwrthwyneb - to the contarary

cymhellion - motivations

awyddus - eager

arddangos - display

Profiadau trist Lily yn fan'na ac mae’n bosibl i chi glywed profiadau rhagor o bobl os ewch i wefan Radio Cymru. Nos Lun mi fuodd Dylan Iorwerth yn holi y Parchedig Aled Huw Tomos ac Arwel Rocet Jones ynglŷn â gwisgo'r pabi coch. Mae Arwel yn gwisgo'r pabi gwyn fel arfer, ond pam? Dyma fo'n egluro ar y rhaglen Dan y Wyneb.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Everton v Abertawe