Cyn gynted ag y daeth Gemau Olympaidd y Gaeaf i ben, aeth nifer iawn o Gymry at i chwilio am enwau gwestai yn Andorra a ffyrdd o deithio yno. Ie, canolfan sgïo byd enwog efallai, ond nid mynd yno i sgïo bydd cefnogwyr tîm pêl droed Cymru.
Yma, ynghanol llethrau cystadleuol y Pyrénées bydd man cychwyn taith tîm pêl droed Cymru ar yr ymgais i gamu, neidio, troi a throsi eu taith i geisio cyrraedd ffeinals pencampwriaeth Ewrop yn Ffrainc yn 2016.
Prif ddinas Andorra, sef Andorra la Vella ydi’r uchaf yn Ewrop, gyda stadiwm fechan sydd yn cynnal ond 1,800 o dorf, a bydd tocynnau ar gyfer y gêm bron yn amhosibl i'w cael.
Fodd bynnag mae Andorra eisoes wedi symud gemau rhyngwladol mawr, yn benodol yn erbyn Ffrainc a Lloegr i Stadiwm Olympaidd Barcelona er mwyn cynnal y gêm o flaen torf fwy. Tybed a fydd Cymru a Gareth Bale yn cael eu hystyried yn ddigon mawr i symud y gêm yma i gyfeiriad Catalonia?
Taith lithrig ydi ceisio cymhwyso ar gyfer unrhyw rownd derfynol wedi bod ers cystadlu yn ffeinals Cwpan y Byd yn Sweden yn 1958. Ond y tro yma , mae tîm Chris Coleman ar y piste yn barod am yr her, ac yn ymddangos yn llawn awch ac asbri i osgoi unrhyw rwystr a fyddai o’u blaenau.
Dwi ‘erioed wedi gweld cymaint o ddarogan optimistaidd o’r blaen i yn dilyn trefn gemau a thimau ar gyfer cyfres o gemau rhyngwladol .Yn wir bydd cystadleuaeth y chwe gwlad yma yn un y bydd pob un sydd yn cefnogi Cymru yn edrych ymlaen amdano gyda choron driphlyg ar gael gan fod enillydd y grŵp yn cymhwyso, yn ogystal â'r ail a lle i'r trydydd mewn gemau ail gyfle.
Rhaid wrth gwrs sicrhau ein hunain nad tîm sydd y dibynnu ar leiafrif bychan o chwaraewyr galluog ydi Cymru, ac nad tawel yw'r stafell newid heb Ramsey, heb Bale gyda'r cefnogwyr yn wylo gwers yr ydym eisoes yn gyfarwydd â hi!
Ond y tro yma, mae gennym ffydd nad dibynnu yn gyfan gwbl ar y sêr byd eang y byddwn ni, gan fod yna chwaraewyr eraill, uwch na’r safon a welwyd yn y gorffennol, yn ddigon da, sydd hefyd wedi derbyn tipyn o brofiad rhyngwladol, a all gyflawni ein breuddwydion.
Fe allaf ddeall yr ymddangosid ceidwadol sydd wedi cael ei gyflwyno yn swyddogol yn dilyn yr atyniad pan ddaeth yr enwau allan o'r het.
Ond o’r diwedd mae’n anodd bod yn besimistaidd. Tydi Gwlad Belg i mi ddim yn dîm sydd yn dangos datblygiad a all ei gynnal yn barhaus dros amser, a dwi’n credu bydd eu gwendidau yn cael eu hamlygu ym Mrasil yr Haf yma.
Mae Bosnia ar ben eu gem, ond a oes yna barhad cynaliadwy tebygol i'w ddisgwyl? Hwyrach ddim, ac am ynys Ciprys, Israel ac Andorra, wel gwell tawelu cyn mynd dros ben llestri!
Llawer gwell fyddai ail gydio yn fy ngwersi Ffrangeg, mae yna ddigon o amser i ddod yn rhugl ar gyfer y daith ar draws y Sianel.
Ie wir, :- "Allez les Galles, allez les Galles , allez". Rhowch “hell” iddyn nhw Mr Coleman, rhowch “hell” iddyn nhw.!
