Main content

Gyrfa beldroed Nathan Craig

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Fore Sadwrn ar raglen Ar y Marc cafwyd cyfweliad gyda Nathan Craig.

Hwyrach i chi gofio fod Nathan ( yn enedigol o Gaernarfon) wedi bod gydag Everton cyn cael ei ryddhau ac ymuno a Thref Caernarfon ac yna’n symud ymlaen i glwb Torquay United.

Bu newid rheolwr yn Torquay, gan adael Nathan heb fawr o gyfle i wneud argraff, ond daeth cyfle iddo ddangos ei allu wrth fynd ar fenthyg i Dorchester yn Adran De'r Gyngres.

Cafwyd cychwyn da y Sadwrn diwethaf gyda Dorchester yn curo Tonbridge Angels a Nathan yn creu’r gôl gyntaf yn dilyn ei gic rydd.

Syndod oedd na chafodd y Cymro'r cyfle i ymuno a thimau yn llawer nes adref, cyn cyrraedd Torquay.

Mae llawer o gefnogwyr Wrecsam yn cwyno nad ydi llygaid y clwb ar agor i chwaraewyr o ogledd Cymru a fyddai'n ddigon da i'r Gyngres. Tybed a fyddai Nathan Craig wedi gwella perfformiadau'r Dreigiau petai wedi cael y cyfle?

Ond nid Craig ydi'r unig un sydd wedi chwarae i dimau gogledd Cymru sydd wedi methu a thynnu sylw nifer o dimau proffesiynol megis Wrecsam . Cafodd brif sgoriwr Uwch gynghrair Cymru, Marc Lloyd Williams, hefyd gyfle gyda thimau megis Stockport County a Halifax. Tybed faint o goliau a fyddai wedi sgorio petai wedi cael cyfle i ymuno a Wrecsam?

Mae Gary Roberts gynt o Ddinbych, y Bala, Bangor a’r Trallwng wedi hen sefydlu ei hun fel chwaraewr proffesiynol erbyn heddiw. Symudodd i ymuno ac Accrington Stanley cyn symud i dimau Ipswich, Crewe , Huddersfield, Swindon a nawr Chesterfield.

Roedd digon o allu gan Owain Tudur Jones pan oedd gyda Bangor nes i Abertawe, o dan reolaeth Kenny Jackett, ei arwyddo yn sgil ei berfformiadau yn Uwch gynghrair Cymru.

Disgleiriodd Danny Holmes i'r Seintiau Newydd ddwy flynedd yn ôl ac arweiniodd hyn iddo symud i dîm Tranmere Rovers, ac ar hyn o bryd mae ar fenthyg gyda Fleetwood Town .

Un o chwaraewyr gorau'r Seintiau ( yn ogystal â Rhyl, Aberystwyth ac Airbus cyn hynny) oedd Craig Jones o Queensferry, Sir y Fflint. Disgleiriodd ar yr asgell ac ymunodd a Bury ble mae wedi cael ei enwi fel capten y clwb gan y rheolwr newydd David Flitcroft.

Un chwaraewr amlwg arall na ddaeth i sylw timau fel Wrecsam ydi Jake Cassidy o glwb Cyffordd Llandudno. Gwnaeth enw iddo’i hun gyda thîm y Gyffordd yng Nghynghrair Undebol y Gogledd cyn ymuno ac Airbus. Yna, yn dilyn gem gyfeillgar yn erbyn Wolverhampton Wanderers ymudodd a'r clwb o Ganoldir Lloegr ac ar hyn o bryd mae ar fenthyg gyda Tranmere Rovers ac wedi chwarae wyth gem i dîm o dan un ar hugain Cymru.

Oes, mae yna ddigon o dalent ar gael o gwmpas Cymru os ydych yn gwybod ble i chwilio. Tybed petai Wrecsam wedi gallu manteisio ar y dalent sydd ar gael yn nes at adre, a fyddai'r tymor yma wedi bod yn fwy llwyddiannus iddynt?

Rhywbeth i’w ystyried i’r dyfodol efallai?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Melltith chwarae ar nos Wener?

Nesaf

Ewro 2016