Main content

Melltith chwarae ar nos Wener?

Cennydd Davies

Gohebydd rygbi

Dwi’n siwr fod nifer yn cofio’r bar siocled enwog o’dd ar un adeg yn cael ei hysbysebu fel ‘That Friday feeling’ ond yn anffodus dyw’r teimlad hwnnw ddim yn berthnasol i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Y gêm yn erbyn Ffrainc yr wythnos hon fydd y bedwaredd i Gymru chware ar nos Wener a hyd yma y record yw chware tair, colli tair, a dwy o’r rheiny yn erbyn y Ffrancwyr.Nid yw rygbi nos wener a thîm Cymru hyd yn hyn beth bynnag wedi cyd rhedeg yn esmwyth.

A beth am nos Wener ar gyfer gemau pencampwriaeth y Chwe Gwlad? Dechreuodd yr arbrawf nôl yn 2009 ac o dan y llifoleuadau yn Stade de France dyma breuddwyd y Cymry o gipio ail gamp law o’r bron yn cael ei chwalu’n deilchion.

Wedi dau dymor ma’ pwyllgor y Chwe Gwlad wedi ail gydio yn yr ‘arbrawf’ a blwyddyn nesa Cymru eto fydd yn chware ar nos Wener yn erbyn Lloegr ar benwythnos agoriadol y gystadleuaeth.

Er gwaetha’r ffaith bod cefnogwyr rygbi yng Nghymru wedi bod yn gyfarwydd â rygbi ar y diwrnod yma ers blynyddoedd lawer, ma’r 6 Gwlad yn unigryw a ma’ na rhyw deimlad rhyfedd ar ddydd Sadwrn pan ma’r cyfan eisoes ar ben!

Digon yn y fantol i dîm Gatland

Deuddeg mis yn ôl ym Mharis, buddugoliaeth allweddol mewn gêm glos wnaeth danio ymgyrch y Cymry, prin fydde unrhyw un wedi meddwl ar y pryd y byddai’r fuddugoliaeth honno wedi arwain at ennill y bencampwriaeth, a dyw’r sefyllfa ddim yn annhebyg i dîm Warren Gatland eleni. 

Er bod ennill y bencampwriaeth o ystyried y gwahaniaeth pwyntiau yn ymddangos yn dalcen caled, maetaro nôl yn hollbwysig. Colli ac yna gallai’r ymgyrch ddod oddi ar y cledrau yn gyfangwbl. Digon felly yn y fantol.

Record cant y cant i’r tîm ifanc?

Pedair awr ar hugain wedi i‘r tîm cynta’ berfformio yn Stadiwm y Mileniwm mi fyddai wedi gwneud y daith lan i Fae Colwyn gan obeithio gweld y tîm dan ugain yn cadw’i record cant y cant yn erbyn eu cyfoedion o Ffrainc.

Wedi buddugoliaeth hynod ar yr ynys werdd ma’r tîm o dan arweiniad Steffan Hughes yn gobeithio cymryd cam sylweddol yn y ras at y bencampwriaeth ar Barc Eirias, fydd unwaith eto o dan ei sang.

Ma’ Bae Colwyn wedi dod yn gartre’ i’r ieuenctid bellach a’r garfan yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth gre’ yno dro ar ôl tro. Y gobaith yw welai’r dwbl y penwythnos hwn a mai’r ceiliog fydd yn clochdar yn y De ac yn y Gogledd.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Gyrfa beldroed Nathan Craig