Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 18 Chwefror 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Stiwdio - Ffilm

celf - art

ail ryfel byd - second world war

Y Cynghreiriaid - The Allies

ysbeilio - to pillage

dinistrio - to destroy

milwyr cyffredin - ordinary soldiers

amcangyfrif - estimate

gwrthrychau - objects

creiriau crefyddol - religious relic

etifeddiaeth ddiwiydiannol - Industrial heritage

"...sgwrs am ffilm newydd o Hollywood 'The Monuments Men'. Ffilm ydy hon gaeth ei chyfarwyddo gan George Clooney sydd hefyd yn actio ynddi hi. Stori sydd yma am ras i achub celf o bob math yn ystod yr ail ryfel byd, cyn i'r Natsiaid ei ddinistrio. Ond mae yna stori wir y tu ôl i'r ffilm. Marion Loeffler buodd yn sgwrsio efo Nia Roberts am yr hanes hwnnw yn Stiwdio dydd Iau. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."



Straeon Bob Lliw - Siop Salis

cyfforddus - comfortable

ffili ado lan - can't addup

wedi aros yn ei unfan - has stood still

yn ddirfawr - greatly

diweddar - recent

salwch annisgwyl - unforseen illness

effaith sylweddol - substantial effect

tu hwnt - beyond

"Wel, dw i wir eisiau mynd i weld y ffilm rwan ar ôl clywed y sgwrs yna. Dw i'n siwr y bydd hi'n dda hefyd, mae actrion enwog iawn ynddi hi - Cate Blanchford, John Goodman, Matt Damon, Bill Murray ac wrth gwrs y seren, George Clooney ei hun. Mae Ronwy Salis yn ddipyn o seren hefyd. Mae ganddo fo siop ar lanau’r afon Teifi, yn Llechryd. Daeth ei fam a’i dad i fyw i Lechryd ym Mil Naw Dau Naw ac agor y siop. Ronwy, neu Ronnie, sy’n ei rhedeg rwan ac fel cawn ni glywed yn y clip nesa 'ma mae yna rai pethau'n debyg iawn rhyngddo fo â Ronnie arall - Ronnie Barker... "



Dan yr Wyneb - Yogi



tywys - to guide

rhoi cyngor - to give advice

pwysleisio - to emphasize

o'ch blaenau chi - ahead of you

cryfder - strength

geiriau doeth - wise words

cefndir - background

teimlad unig iawn - a very lonely feeling

galar - bereavement

cysur - comfort

"Rachel Garside oedd yn siarad efo Ronwy Salis yn fan'na ar Straeon Bob Lliw. Mae'n drist yntydy gweld y siopau bach yma'n cau? Dw i'n siwr bod dipyn mwy o sgwrs i'w chael yn siop Ronnwy nac wrth y til mewn archfarchnad fawr! Efallai eich bod chi wedi clywed am Bryan 'Yogi' Davies. Mae stori y chwaraewr rygbi o'r Bala wedi bod yn y papurau newydd ac ar S4C. Cafodd ei anafu mewn damwain ofnadwy wrth chwarae rygbi i'r Bala. Oherwydd yr anaf, roedd o wedi ei barlysu o'i wddw i lawr ac,yn drist iawn, mi fuodd o farw ychydig fisoedd yn ôl. Mewn rhaglen arbennig o Dan yr Wyneb buodd Dylan Iorwerth yn holi ei wraig Sue Davies..."



John Hardy - Tom Pollack



dewrach - braver

cludo - to transport

diogelwch - safety

dihangfa - an escape

trwy ryfedd wyrth - miraculously

angel warcheidiol - guardian angel

trigodd hi - she died

ffoaduriaid - refugees

amaethu - ffermio

dim clem - dim syniad

Wel dyna glip oedd yn drist, ond hefyd yn dangos cariad cryf iawn ynde? A hynny yn briodol iawn ar wythnos pan oedd pobl yn dathlu dydd San Ffolant. Mi ddechreuon ni'r podlediad efo ffilm gyffrous am yr ail ryfel byd. Mae 'na stori gyffrous iawn yn y clip ola yma, a'r stori yma hefyd efo cysylltiad â'r ail ryfel byd. Trystan ab Ifan fuodd yn sgwrsio efo Tom Pollack ar Cofio yr wythnos diwetha, ac mi glywon ychydig o hanes tad Tom, Fred. Dyma Tom yn esbonio pam roedd rhaid i Fred adael Czechoslovakia ychydig cyn dechrau'r rhyfel ...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

A Fo Ben bid bont

Nesaf

Melltith chwarae ar nos Wener?