Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Yn y Ryc - Shane Williams
cymeradwyaeth - applause
y llinell gais - the try line
eilydd - substitute
hala bant - sent off
asgellwr - winger
y gamp lawn - the grand slam
camp a hanner - an achievement and a half
antur fawr - big adventure
arwrol - heroic
y modd mwya dadleuol - the most controversial manner
"…wel efo be arall ond y rygbi ynde? Mi chwaraeodd Cymru'n wych nos Wener yn erbyn y Ffrancwyr yndo? Roedd hi'n braf eu gweld yn chwarae cystal ar ôl y siom yn Nulun bythefnos yn ôl. Ond ddim clip o'r gêm honno dach chi'n mynd i'w glywed rwan ond clip o sawl gêm yn y gorffennol yn erbyn y Ffrancod, ond bod un peth yn gyffredin rhwng y gêmau - roedd Shane Williams yn chwarae dros Gymru ym mhob un ohonyn nhw. Ac mae'r clip cynta yn mynd â ni yn ôl i gêm gynta un Shane dros ei wlad..."
Dafydd a Caryl - Archdderwydd
Archdderwydd - Archdruid
penodi - to appoint
cymwysterau - qualifications
prifardd - crowned or chaired poet
enwebu - to nominate
ystyried - to consider
newid y delwedd - to change the image
rhyfeddol o ddymunol - remarkably pleasant
cynifer - so many
hollol ddidwyll - totally sincere
"Shane Williams yn fan'na yn cael ei holi gan Helen Glanville ac yn dweud pa mor nerfus oedd o cyn ei gêm gynta dros Gymru. Tybed oedd Christine James yn teimlo'n nerfus cyn iddi hi fentro i'w heisteddfod gynta fel Archdderwydd. A hynny fel y ferch gynta i ddal y swydd honno. Mi ddaeth Christine i'r stiwdio aton ni ar Dafydd a Caryl ddydd Llun diwetha. Ac mi roedd gen i gwestiwn ro'n wedi bod eisiau ei ofyn i Archdderwydd erioed - a dyma fo i chi..."
Y Talwrn - Y Tir Mawr
tronsiau llaes - long johns
fy ngwinedd - my nails
gwyro - to bend
ffwndro - to be confused
byddar - deaf
llythrennol - literally
fy nghesail - my armpit
gwyrthiol - miraculously
bochau'n nhin - buttocks
bregus - fragile
"Dwn i ddim a fydd y bardd 'Jôs' sy'n rhan o dîm Talwrn y Tir Mawr, yn Archdderwydd ryw ddydd. Mi roedd Christine wedi rhoi gwybod i ni beth sydd ei angen yn doedd - ac mi fasai'n rhaid i Jôs ennill y gadair neu'r goron cyn iddo fo freuddwydio am gael y swydd. Wel mi gaeth ei gerdd o ddeg allan o ddeg yn y Talwrn ddydd Sul diwetha, er mae gen i deimlad na fasai'r gerdd honno yn ennill un o wobrau mawr yr Eisteddfod Genedlaethol. Be dach chi'n feddwl?"
Cofio - Llanelli
ffydd mawr - huge faith
becso - poeni
cytgan - chorus
dirgelwch - mystery
cyfrifydd - accountant
diwydiant dur - steel industry
hawlio - to claim
crydd - cobbler
glud - glue
ychwanegiadau - additions
"Cân Jôs yn amlwg wedi plesio, ac wedi ticlo, Ceri Wyn Jones yn fan'na! Mi ddechreuon ni'r podlediad hwn efo rygbi ac mi rydan ni'n mynd i orffen efo cân sy'n cael ei chysylltu efo'r gêm - Sosban Fach. Tasech chi'n gofyn o le ddaeth y gân hon mi fasai'r rhan fwyaf o bobol yn dweud Llanelli yn syth. Wedi'r cwbwl dyma dre'r sosban ynde? Ac mae'r gân wedi ei chysylltu efo tîm rygbi'r Sgarlets ers blynyddoedd maith. Ond dydy'r ateb i'r cwestiwn ddim mor hawdd â hynny fel y clywon ni gan yr hanesydd John Edwards, fuodd yn sgwrsio efo John Hardy ar Cofio..."
