Main content

Ar Y Marc: Gemau Dros y Nadolig

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae yna ryw awyrgylch unigryw i gemau pêl droed dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn newydd.

Yn draddodiadol, dyma adeg y gemau darbi, ac fel un a gafodd ei fagu yn nyddiau'r hen Gynghrair Gogledd Cymru, gemau rhwng Porthmadog a Blaenau Ffestiniog oedd fy neiet i o bêl droed ar ddydd Sant Steffan.

Roedd y gemau yma, fel gemau proffesiynol, yn cael eu chwarae yn wreiddiol ar ddydd y Nadolig, ac yna'r gêm ddilynol ar Ddydd Ŵyl Sant Steffan.

Daethpwyd a'r gemau Nadolig i ben ar ddechrau'r chwedegau pan benderfynodd undebau llafur fod rhaid i yrwyr bysus, fel pawb arall, gael gŵyl oddi wrth eu gwaith, a symudwyd gemau 'Dolig i Ddydd Calan.

Yn aml iawn, cyn y gêm fawr ar ddydd Sant Steffan, roedd gemau yn y cynghreiriau is, a rheini hefyd yn gemau darbi gan ddechrau yn hwyr yn y bore er mwyn inni gyd fynd i weld y gêm fawr!

Felly oedd hi imi ar fore oer a rhewllyd, mewn gem yng nghynghrair Dyffryn Conwy, wrth chwarae yn y gôl i Flaenau Ffestiniog Colts, draw yn Nolwyddelan , pan aeth popeth o'i le.

Dathlu'r Nadolig a gormod o bwdin a gafodd y bai, wrth i bopeth a oedd yn symud cael ei gicio, a minnau fel golwr yn cael fy hyrddio i ganol tomen o faw gwartheg yng ngheg y gôl fwy nac unwaith.

Ond , yn dilyn un drosedd yn ormodol, fe gafodd y dyfarnwr ddigon ac fe agorwyd llifddorau uffern wrth iddo fo, ag unrhyw un o’i berthnasau, gael eu cyfarch gan doreth ddi-stop o regi a dymuniadau tramgwyddus gwrth Nadoligaidd iawn!

Digon oedd digon, a phenderfynwyd anfon un o fy nghyd chwaraewyr oddi ar y cae am dwb cynnar o ddŵr oer yn y cwt newid.

Ond, gwrthod yn bendant a wnaeth fy nghyfaill, am nad oedd y Nadolig yn amser priodol, yn sgil dymuniadau gorau i ddynion ewyllys da, i anfon yr un chwaraewr oddi ar y cae, am beth bynnag rheswm! ( “Hey ref don’t you know it’s Christmas oedd y geiriau” - ymysg toreth o regfeydd aml ieithyddol!! ! Ac ie, dwi’n dal i’w clywed nhw rhyw hanner can mlynedd yn ddiweddarach!!!)

Ond i’r cwt newid digysur a fo!

Ond nid dyna ddiwedd y stori.

Rhyw wythnos yn ddiweddarach, daeth llythyr i’r clwb, gan Gymdeithas Bel droed Arfordir Gogledd Cymru, yn cynnwys adroddiad y dyfarnwr o’r digwyddiadau yn Nolwyddelan ac yn rhoi'r rhesymau am anfon chwaraewr o’r cae, a pham y cymerwyd enw bron pawb arall a oedd ar y cae!

Ar ben yr amlen, oedd rhybudd clir - ‘Not to opened by a female!’

Wn i ddim beth oedd agwedd pobol tuag at gydraddoldeb rhyw yn y chwedegau, ond tybed a fyddai Manchester United neu Chelsea yn derbyn rhybudd ar ben eu llythyrau yn yr oes ohoni os digwydd i Wayne Rooney neu Jose Mourinho golli eu limpyn?

Ond yn ôl at gemau lleol yn y chwedegau ac adnoddau newid tîm y Colts, yng Nghae Clyd ym Manod, gerllaw Blaenau Ffestiniog.

Allai eich sicrhau nad oedd yna ddim byd yn glyd iawn am y lle yng nghanol y gaeaf.

Beudy yng ngardd gefn un o’r tai gerllaw oedd y cwt newid, ac anferth o fath sinc metal ar y llawr i drochi ynddo ar ôl y gêm, heb fawr ynddo i gynhesu bodiau traed heb son am weddill y corff.

Ond dyna ni, dynion oedd dynion yr adeg hynny, medda 'nhw, ond os cawsoch eich taro mewn lle tyner gan bêl ledr gwlyb a oedd yn pwyso tunnell, byddech yn lwcus iawn o gyrraedd y cwt newid yn dal i gredu mai dyn oeddech chi!

A doedd cael damwain felly, rhyw awr neu ddwy cyn mynd i ddenu genethod ar nos Sadwrn ddim yn jôc, yn enwedig os oedd pob Tom, Dic a Harri ar y pwyllgor wedi bod wrthi'n bodio'ch corff i edrych be oedd yn bod arnoch, a chithau bron a llewygu, na chwaith mewn unrhyw sefyllfa i'w rhwystro!

Tydi peldroedwyr heddiw ddim yn gwybod eu bod wedi cael ei geni, ac os ydynt yn meddwl mai deifio o gwmpas y lle a syrthio i’r llawr cynted ag y mae rhywun yn eu taro ydi bod yn ddyn, yna meddyliwch mewn difrif be’ fasa’n digwydd petaent yn chwarae ar Gae Clyd ac yn cael yr hen bêl ledr yna yn eu taro rhwng eu coesau!

Mwynhewch yr ŵyl, a gwyliwch yr iaith!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Radio Cymru Yn Cyhoeddi Golygyddion Gwadd