Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Rhagfyr 16, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Bore Cothi - Drama'r Geni

drama'r Geni - nativity play

cynhyrchu - producing

wrth y llyw - at the helm

llety - inn

mynwent - cemetary

bugeiliaid - shepheards

cyfrinach - secret

delwedd - image

dychymyg - imagine

datgelu - to reveal

...stori Nadoligaidd iawn - hanes Drama'r Geni fydd yn cael ei chynnal yn Llanddarog Sir Gaerfyrddin eleni. Be sy mor arbennig am hynny d'wedwch? Mae na ddrama'r Geni i'w gweld mewn sawl pentre ac mewn nifer fawr o ysgolion ar hyd a lled Cymru. Ond bydd rhywbeth anghyffredin iawn yn digwydd yn Llanddarog fel y clywodd Shan Cothi wrth sgwrsio efo Vilna Thomas sy’n cynhyrchu'r ddrama...

Y Silff Lyfrau - Rhys Meirion

hunangofiant - autobiography

rhaid cyfaddef - I must admit

hyfforddiant - training

cantores - singer (female)

galar - grief

direidi - mischievousness

awdur o argyhoeddiad - an author of conviction

anghysondeb - inconsistencies

ieithydd - linguist

arddull - style

Gobeithio gawn ni wybod rhywbryd be digwyddodd efo'r angel ynde? Mae'n swnio'n gyffrous iawn. Mi fydd yn werth gwrando ar Bore Cothi drwy'r wythnos nesa rhag ofn i ni gael yr ateb. Os dach chi'n dal i chwilio am anrhegion Nadolig, basai hunangofiant Rhys Meirion yn siwr o blesio rhywun! Mae o'n llawn hanesion am Rhys wrth gwrs ond mae yna lawer iawn o hiwmor yno hefyd. Mae Nia Roberts a’i gwesteion ar Y Silff Lyfrau ddydd Mercher diwetha, Lowri Cooke, Catrin Beard a Trystan Lewis, wedi darllen y llyfr a dyma nhw'n rhoi eu barn arno fo... ...

Cofio - Pantomeim

cyfarwyddo - to direct

cyfraniad - contribution

bwlch - a gap

tylwythen - fairy

gwrach - witch

yn drychiolaeth - ghostly

gorlawn - overfull

dewin - wizard

egwyl - interval

heneiddio - to age

Wel mi fydd y llyfr yna'n mynd lawr ar fy rhestr i i Santa dw i'n siwr. A gan bod y Dolig yn dod yn nes mae hi'n dymor y Pantomeim yntydy? Reit, pwy dd'wedodd 'o na dydy hi ddim?'!! Mae'n debyg y bydd yna banto Cymraeg yn dod i'ch ardal chi yn yr wythnosau nesa- cerwch i'w weld os gewch chi gyfle. Ar Cofio ddydd Mercher buodd John Hardy a Dyfan Roberts yn sgwrsio am y pantomeim cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg, Mawredd Mawr, yn ôl yn Mil Naw Saith Un.

Galwad Cynnar - Newid hinsawdd

newid hinsawdd - climate change

sail - foundation

y cynhesa - the warmest

cynnydd cyson - consistent change

cyfartaledd tymheredd - average temperature

effaith aruthrol - a tremendous effect

ansefydlogrwydd - instability

eithafol - extreme

yn ddiweddar - recently

dadmar - to thaw

John Hardy a Dyfan Roberts yn fan'na yn cofio am y pantomeim Cymraeg cynta, a hefyd wrth gwrs am y gystadleuaeth harddwch - Miss Asbri! Tybed ydy Sion Corn yn poeni am newid hinsawdd gan ei fod yng nghanol yr eira a'r rhew yn y gogledd pell? Wel, nid trafferthion yr hen Santa buodd Gerallt Pennant a Twm Eleias yn eu trafod ar Galwad Cynnar ddydd Sadwrn ond yn hytrach mi glywon ni'r ddau yn trafod effeithiau newid hinsawdd ar y blaned gyfan. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cystadleuaeth Stori Nadolig Fer Geth a Ger

Nesaf

Ar Y Marc: Gemau Dros y Nadolig