Bydd rhannau o wasanaeth newyddion y bore BBC Radio Cymru, ar y Post Cyntaf a Rhaglen Dylan Jones, yn cael eu harwain gan chwe golygydd gwadd dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, gan ddechrau hefo’r cyflwynydd Gethin Jones fore Noswyl Nadolig.
Dyma’r rhestr yn llawn:
Mercher 24/12/14 Gethin Jones, cyflwynydd teledu
Llun 29/12/14 Margaret Williams, cantores
Mawrth 30/12/14 Hywel Wyn Edwards, cyn-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol
Mercher 31/12/14 Dr Olwen Williams, Pennaeth Staff gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Gwener 2/1/15 Dylan Ebenezer, cyflwynydd chwaraeon
Llun 5/1/15 Huw Chiswell, canwr a cherddor
Ar ôl cael cais i ddewis dwy eitem benodol ymhob rhaglen, mae’n gyfle i’r golygyddion fynd ar drywydd pynciau sy’n bwysig iddyn nhw.
Mae Gethin Jones wedi dewis dau gwestiwn gwahanol iawn i’w gilydd.
Cafodd ei dad drawiad ar y galon dair blynedd yn ôl. Ers hynny mae Gethin wedi cael profion i weld pa mor debygol y mae yntau o gael trawiad - ac fe wnaeth y profion ddangos bod ei lefelau colestrol yn uchel iawn - a hynny er ei fod yn berson ifanc, ffit ac yn bwyta’n iach ar y cyfan. Fe gafodd ei chwaer yr un profion, ac mae hi’n iawn, mae’n debyg. Felly bydd Gethin yn defnyddio’r amser ar y rhaglen i holi a ddylai profion iechyd fel hyn fod yn orfodol? Neu ydy hi’n bosibl bod y profion yma’n creu pryderon a’i bod yn iachach yn y pen draw i fyw heb y wybodaeth ychwanegol yma?
Ac mae’n cydio yn ysbryd yr Ŵyl ar gyfer ei ail bwnc… Faint ohonom fydd yn meddwl eilwaith wrth rwygo’r papur lliwgar a thyrchu i weld pa anrheg sydd i’w gael yng nghanol y rhubanau a’r gliter? Beth am y rhai sy’n treulio oriau lawer yn lapio pob eitem gyda gofal mewn papur drudfawr? Wel, mae’n gas gan Gethin lapio anrhegion Nadolig ac yn teimlo ei fod yn wastraff llwyr ar amser ac adnoddau. Yn hytrach na phrynu eitemau drud i’w rhoi dan y goeden Nadolig, mae’n well ganddo feddwl am brofiadau fyddai wrth fodd pobl, ac a fydd yn cynnig atgofion fydd yn parhau yn y cof am byth. Beth fydd barn y gwesteion ar y rhaglen?
Pynciau’r golygyddion gwadd eraill:
Margaret Williams:
• Lle pobl hŷn ar y teledu ac mewn cymdeithas
• Bwydydd iach - pwy sy’n dweud y gwir?
Hywel Wyn Edwards
• Gwastraff arian yr holl dân gwyllt Nos Galan
• Llywodraeth leol - oes ’na ormod o gynghorau yng Nghymru?
Dr Olwen Williams
• Ydy hi’n amser i gael gwared ar y “dame” Pantomeim?
• Penderfyniad rhai cleifion i beidio cael triniaeth i adfywio'r galon a'r ysgyfaint
Dylan Ebenzer
• Beth yw'r gamp fwya’ poblogaidd yng Nghymru?
• A470 - a fydd yna fyth ffordd safonol o'r De i'r Gogledd?
Huw Chiswell
• Ydy hi’n rhy hwyr i adfer y cymoedd?
• A ddylai pob ysgol yng Nghymru fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg?
