Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg: Tachwedd 10fed-16eg 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Cofio - Dai Francis

y gwaith glo - coal mine

agoriad - opening

twlu - to throw

gwacter - vacuum

gwythien - seam

dan ddaear - underground

cyfarwydd - familiar

rhaw - spade

talcen - coal face

torcalonnus - heartbreaking

Clip bach o raglen Cofio gyda Dai Francis yn sôn am ei ddiwrnod cyntaf yn gweithio yn y gwaith glo yn 1926.



Hanner Call - Newid rhyw

arweinydd - leader

Undeb Glowyr - Miners Union

trafodaeth - discussion

newid rhyw - changing sex

cadeirio - chairing

trawsrywiol - transsexual

cefn gwlad - rural area

fatha - fel

watsiad - to watch

Llais hyfryd Dai Francis oedd hwnna. Roedd Dai yn arweinydd Undeb Glowyr De Cymru yn y chwedegau a'r saithdegau. Buodd yna drafodaeth ar newid rhyw ar y rhaglen Hanner Call wythnos diwetha. Heddyr Gregory oedd yn cadeirio'r sgwrs a dyma i chi flas ar gyfraniad Stacy Rosemary Winson yn sôn am ei phrofiad hi fel person trawsrywiol.



Y Rhyfel Mawr - Passendale

cyd-destun - context

cynghrair - alliance

byddin - army

gwrthod ymosod - refuse to attack

amddiffyn eu llinell - defend their lines

cefnor o fwd - an ocean of mud

yn llythrennol - literally

boddi - to drown

amgylchiadau - circumstances

yr enillion yn bitw iawn - the gains were pitiful

Gyda chan nlynedd wedi mynd heibio ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yna raglen arbennig ar Radio Cymru, Y Rhyfel Mawr, yn sôn am ddigwyddiadau'r rhyfel yn 1916 a 1917. Tweli Griffiths oedd yn cyflwyno ac yn y clip cawn glywed trafodaeth rhynddo fo a'r hanesydd Gethin Mathews ynglyn â brwydr Passendale.



Rhaglen Aled Hughes - Nerys Bowen

sylweddolais i - I realised

anhygoel - incredible

cymhwyster - qualification

darganfod - to discover

diwylliant - culture

barddoniaeth - poetry

cerddoriaeth - music

y rhan fwyaf - the majority

y mwyaf swil - the most shy

cuddio'r ffaith - hiding the fact

Hanes trist brwydr Passendale yn y Rhyfel Mawr yn fan'na. Trwy'r wythnos roedd rhaglen Aled Hughes ar daith drwy Gymru'n casglu arian ar gyfer Plant Mewn Angen. Dydd Llun buodd yn ymweld ag ysgol Llwyn Celyn yn y Rhondda a chael sgwrs gyda Nerys Bowen sydd wedi dysgu Cymraeg. Dyma hi'n sôn am sut mae dysgu Cymraeg wedi newid ei bywyd hi.



Taro'r Post - Bathodyn oren

bathodyn - badge

cymuned - community

beth bynnag - anyway

A dan i'n mynd i aros yn y Rhondda a gyda rhywun arall o'r cwm sydd wedi dysgu Cymraeg yn y clip nesa. Mae gan Julie Goodfrey o Dreorci fusnes yn y dref, 'Treorci Pet and Garden' ac mae hi'n meddwl bod gwisgo'r bathodyn bach oren 'Siarad Cymraeg' wedi helpu ei busnes. Roedd yna drafodaeth am y bathodyn ar Taro'r Post ddydd Llun a dyma Julie'n sôn am ei phrofiad hi o wisgo'r bathodyn.



Rhaglen Ifan Evans - Megan Taff

cefn gwlad - countryside

dim fawr o bwys - of no importance

bro - district

amlen - envelope

Wel dyna i chwy ddwy stori bositif iawn am y Gymraeg yn Nghwm Rhondda, a hynny oherwydd dwy sy wedi dysgu'r Gymraeg fel oedolion. Megan Taff oedd gwestai'r rhaglen Ifan Evans ddydd Llun yn sôn am ei dyddiau ysgol. Mae Megan yn cymryd rhan mewn rasus ceffylau ac mae hi i'w gweld ar y rhaglen 'Rasus' ar S4C. Pryd dechreuodd ei diddordeb mewn ceffylau tybed? Dyma hi'n rhoi'r ateb i Ifan.



Gari Wyn - Llundain

Adran Cynllunio Corfforaeth - Corporate Planning Department

tyrrau uchel - skyscrapers

mur - wall

dinas Rufeinig - Roman city

y deunafwed ganrif - 18th century

rhyngwladol - international

ffiniau'r ddinas - the city limits

pensaeniaeth - architecture

uffernol o gyfoethog - extremely rich

datblygiadau - developments

Megan Taff oedd honna yn son am ei phlentyndod yn Llangernyw. Mae Gwyn Richards yn dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n gweithio fel Pennaeth Adran Cynllunio Corfforaeth Dinas Llundain. Fo sy'n gyfrifol am yr holl dyrrau uchel o fewn ardal fusnes Llundain. Dyma Gwyn yn disgrifio Dinas Llundain fel mae o'n ei gweld hi.



Rhaglen Ifan Evans - Gillian Elisa

amrywiaeth o waith - a range of work

ymdopi - to cope

ffwrdd â hi - improvised

troi lan - to turn up

hel atgofion - recollecting

cymeriadau - characters

amryddawn - versatile

mas o nheg i - out of my mouth

drysu - to confuse

Gwyn Richards yn sôn am dyrrau uchel Llundain efo Gari Wyn. Yr actores Gillian Elisa oedd gwestai arbennig Ifan Evans brynhawn dydd Mawrth. Mae Gillian wedi bod mewn amrywiaeth fawr o waith actio o 'Pobol y Cwm' i 'Y Graith' a sawl rhan gomedi. Sut mae hi'n ymdopi gyda'r amrywiaeth yma? Dyma hi'n esbonio wrth Ifan

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cymru a Chei Connah

Nesaf

Gêm Albania v Cymru