Main content

Cymru a Chei Connah

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tra bydd Cymru yn wynebu Denmarc yng Nghaerdydd i benderfynu os byddant un cam yn nes at gymhwyso i rowndiau terfynol Euro 2021, bydd gêm arall, llawn mor bwysig yn cael ei chynnal ar Barc Hampden, sef stadiwm genedlaethol yr Alban, yn Glasgow.

Na, nid gem ryngwladol i’r Alban , ond gem yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Her yr Alban rhwng y tim cartef, Queen’s Park a Chei Connah o Lannau Dyfrdwy.

Llwyddodd y Nomadiaid i guro pencampwyr Gogledd Iwerddon, Coleraine, yn y rownd ddiwethaf ar Stadiwm y Coleg yng Nghei Connah, gyda buddugoliaethau oddi cartref yn erbyn Falkirk cyn hynny.

A gyda’ thîm Andy Morrison ar frig Uwch Gynghrair JD Cymru ar hyn o bryd, mae hyder yn uchel y bydd llwyddiant yn parhau yn un o gaeau mwyaf hanesyddol y gêm nos Wener.

Cychwynnodd pêl droed yn yr Alban gyda Queen’s Park, y clwb cyntaf a sefydlwyd yn yr Alban, yn 1867, a byth ers eu cychwyn cynnar, mae’r clwb wedi aros yn amatur yn ei statws.

Mae eu stadiwm, Parc Hampden, yn dal 50,000 ac wedi lleoli nifer o gemau cofiadwy fel ffeinal Cwpan Ewrop yn 1960 rhwng Real Madrid ac Eintracht Frankfurt, ac wedi gweld sêr rhyngwladol a hanesyddol fel Ferenc Puskas ac Alfredo di Stefano yn profi llwyddiant ar y cae.

Ond, fe fydd yna nes i 150 o bobol, mae'n debyg, yn y stadiwm nos Wener, a bydd llawer mwy yno nos Fawrth nesaf pan fydd yr Alban yn wynebu Israel mewn gem yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Fe allai’r gêm yma rhwng Cei Connah a Queen’s Park fod wedi bod yn un rhwng y Cei a’r Seintiau Newydd, gan mai dyna pwy oedd gwrthwynebwyr yr Albanwyr yn y rownd ddiwethaf, dim ond i’r Seintiau golli o giciau o'r smotyn.

Ond, mae dewis o'ch blaen nos Wener. Tra bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Denmarc , peidiwch â gofidio, mae gem Cei Connah a Queens Park yn fyw ar BBC Alba (gwasanaeth BBC yn yr iaith Aeleg) ac mae'r gwasanaeth yma ar gael i ni yma yng Nghymru hefyd.

Hawdd iawn ydi edrych ar y ddwy gêm ar yr un adeg - drwy eich teledu, gliniadur, ffôn symudol neu eich tabled. Fyddwch chi ‘mo’r cyntaf i wneud rhywbeth felly, gallaf eich sicrhau !!!!!

Pob hwyl i Andy Morrison a'i dîm, a phob lwc i Gymru!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol