Main content

Gêm Albania v Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Siom oedd gweld Cymru yn colli draw yn Albania, ac yn ôl y cyfweliad y teledu, doedd neb wedi siomi fwy ‘na Ryan Giggs.

A hyn yn dod ar ôl y siom o golli adre yng Nghwpan y Genhedloedd yn erbyn Denmarc wythnos yn ôl.

D’oedd Giggs ddim heb ei feirniaid ar ôl colli’r wythnos diwethaf, gyda nifer yn beirniadu tactegau Cymru a dewisiadau chwaraewyr ar gyfer y tîm.

Ond, gyda Chymru yn rheoli'r chwarae ar gychwyn y gêm, yr siom i mi oed nad oeddynt wedi manteisio ar y cyfleoedd a greuwyd. Petai hyn wedi digwydd, yna rwy’n hollol ffyddiog y byddem wedi ennill, Giggs yn arwr, a byddai bob beirniadaeth drosodd, a phawb yn canu’i glod!

Nid felly y bu, a daeth toreth o feirniadaeth arno ar ôl y daith i Albania hyd nes y byddai dianc i fwthyn unig ymhell o dimau gwyllt pêl droed yn edrych fel dewis go lew am y tro!

Ond, a oedd Giggs a’i griw mewn sefyllfa ble na fyddent wedi gwneud dim yn iawn?

Roedd y tîm a wynebodd Albania yn hollol wahanol i'r un a wynebodd Denmarc, wyth o newidiadau, gyda chwaraewyr nas gwyddom lawer amdanynt , fel Daniel James o Abertawe, Jamie Lawrence o Anderlecht a Rabbi Matondo o Manchester City yn cael profiad rhyngwladol llawn am y tro cyntaf.

Petai Giggs heb fynd am drochi chwaraewyr ifanc a di brofiad yn y maes rhyngwladol yn erbyn Albania, yna fe fyddai’n siŵr o gael ei gyhuddo o fethu a datblygu ymlaen a gor-ddibynnu ar yr hen bennau.

Y siom, oedd, wrth gwrs, fod Cymru wedi colli, a hynny yn erbyn tîm a gollodd yn erbyn yr Alban o bedair gôl i ddim, bedwar diwrnod ynghynt, ond pam na chafodd Cymru gic o'r smotyn am drosedd ar Harry Wilson yn yr ail hanner, does a gwybod.

Unwaith eto, os, oni bai a phetai!

D’oes dim amheuaeth fod angen ail adeiladu ein tîm, a dod a'r to newydd ymlaen, ac mae’n wybodus mai taith anghyson ydi hon, a d’oes dim gwell i brofi hyn na churo Gweriniaeth Iwerddon o bedair i ddim mewn un gêm, a cholli yn Yr Alban mewn un arall.

Ymlaen felly i fis Mawrth a'r gemau ar gyfer Ewro 2020, ac fe fyddwn yn gwybod ar Ragfyr yr 2il pwy fydd ein gwrthwynebwyr yn y grŵp cymhwyso.

Cyn cynhyrfu, rhywbeth i chi ei ystyried, efallai.

Gyda Gweriniaeth Iwerddon wedi cael gwared â’u rheolwr Martin O’Neill a’u is reolwr Roy Keane, tybed a fydd y Weriniaeth yn troi at Chris Coleman i gyflawni'r hyn a lwyddodd i wneud gyda Chymru? A chyda’r math o bethau sydd yn digwydd yn y byd pêl droed, fod Cymru yn cael eu gosod yn yr un grŵp cymhwyso a’r Iwerddon ac yn eu hwynebu mewn gem ragbrofol allweddol.

Mae’r pethau mwyaf annisgwyl yn gallu digwydd mewn pêl droed !!!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf