Ym mhennod gyntaf Cyfrwng Cerddoriaeth wythnos diwethaf mi wnaethon ni fynd â’r gwrandawyr ar daith trwy’r cyfryngau cyhoeddi cerddoriaeth cynharaf.
Fe gafodd y cyfryngau cynnar yna – o’r silindrau cwyr i’r LPs feinyl – i gyd effaith ar gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn y cyfnodau dan sylw, a hynny wedi cyfrannu at siapio’r sin gerddoriaeth Gymraeg rydan ni’n ei adnabod heddiw.
Yn yr ail bennod rydan ni’n cyrraedd diwedd y 1970au a dyfodiad y caset, neu’r ‘compact caset’, fel cyfrwng poblogaidd.

Er bod pobl yn tueddu i droi eu trwyn ar y caset fel cyfrwng heddiw, gellir dadlau ei fod wedi cael mwy o ddylanwad ar gerddoriaeth Gymraeg gyfoes na’r un cyfrwng arall.
O ddechrau’r 70au roedd yr LPs feinyl wedi cyfrannu at newid sylweddol yn nhirwedd y sin gerddoriaeth Gymraeg, ac agwedd mwy proffesiynol label Sain at recordio a chyhoeddi wedi arwain at gynhyrchu degau o albyms safonol iawn.
Roedd hyn wrth gwrs yn beth cadarnhaol i gerddoriaeth Gymraeg, ond roedd hefyd yn cyfyngu i raddau ar y math o gerddoriaeth oedd yn cael ei ryddhau. Roedd cyhoeddi ar feinyl yn ddrud – roedd angen mynd i stiwdio broffesiynol i recordio at y safon uchaf posib, ac roedd dyblygu feinyl yn gostus.
Roedd dyfodiad y casét yn cyd-fynd â’r symudiad pync ar ddiwedd y 70au oedd yn gwrthryfela’n erbyn y safonau cerddorol oedd wedi eu gosod cyn hynny. Roedd y casét yn gyfrwng rhad iawn, a hawdd iawn i recordio a dyblygu arno ac arweiniodd hyn at gyhoeddi llawer iawn o gerddoriaeth amgen yn y Gymraeg.
Yng nghyfnod y casét mae modd i chi weld llwyth o labeli bach yn ymddangos yng Nghymru, yn rhyddhau pob math o gerddoriaeth na fyddai fyth wedi gweld golau dydd ar feinyl, nac ar un o’r labeli Cymraeg blaenorol.
Un label wnaeth arloesi oedd Casetiau Neon rhwng 1980 a chanol yr 80au, gan gyhoedd casetiau gan artistiaid arbrofol fel Malcolm Neon, Meibion Mwnt ac wrth gwrs cynnyrch cynnar Datblygu.

Label arall oedd yn cyhoeddi casetiau yng nghanol yr 80au oedd OFN, dan arweiniad y cerddor a chynhyrchydd amryddawn Gorwel Owen. Mae Gorwel yn trafod y cyfnod yn y bennod yma o’r gyfres a byddwn ni’n clywed cerddoriaeth wych gan rai o’r bandiau y bu’n gyfrifol am gyhoeddi gan gynnwys Sgidia Newydd ac Eirin Peryglus.
Gellir rhestru llwyth o labeli bychain eraill a gyhoeddodd lond dwrn o gasetiau – Recordiau 123; Recordiau Mam a Dad; TSS; Cwmni Wmni; Casetiau Huw; a Byd Bobs i enwi dim ond rhai. Yn ogystal â hynny roedd rhai artistiaid yn cynhyrchu casetiau’n annibynnol gydag efallai nifer cyfyngedig iawn o gopïau.
Er mor bwysig oedd hyn ar y pryd, a’r amrywiaeth roedd yn cynnig i’r sin, mae’n golygu heddiw bod llawer o’r gerddoriaeth yma wedi ei golli i bob pwrpas. Roedd cyfyngiadau’r casét yn golygu bod y safon yn isel, y casetiau’n hawdd i’w torri a’r ryns bach yn golygu bod pethau’n brin. Os oes ganddoch chi focs o gasetiau Cymraeg yn llechu yng nghornel yr atig yna mae tîm Cyfrwng Cerddoriaeth yn awyddus iawn i glywed ganddoch chi!
Mae’r ail bennod hefyd yn dod â ni at gyfnod y cryno ddisg, neu’r CD, ac mae 2015 yn nodi chwarter canrif ers cyhoeddi’r hyn a labelwyd fel y ‘CD roc Cymraeg cyntaf’ mewn erthygl yng Nghylchgrawn Golwg yng Ngorffennaf 1990, sef ‘Awn Ymlaen Fel Hyn gan Mojo.

Mae’r CD yn chwarae rhan pwysig yn y stori, ac unwaith eto wedi cael effaith ar y diwydiant recordiau Cymraeg. Er eu bod nhw’n ddrud i’w cynhyrchu a’u prynu yn y lle cyntaf, fe ddaethon nhw’n llawer rhatach yn weddol fuan a hynny’n golygu bod gan artistiaid gyfrwng oedd yn rhatach na feinyl, ond oedd hefyd yn cynnig safon uwch na’r casét.
Tybed hefyd oes modd gweld perthynas rhwng dyfodiad y CD a’r hyn ddigwyddodd gyda Cŵl Cymru, a llwyddiant artistiaid Cymraeg yn rhyngwladol yng nghanol a diwedd y 90au? Byddwn ni’n gofyn y cwestiwn yma, a sawl un arall yn yr ail bennod o Cyfrwng Cerddoriaeth.

